Newyddion S4C

Teyrngedau i ddyn o Borthmadog fu farw tra’n rhwyfo ar draws yr Iwerydd

26/02/2024
Michael Holt

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o Wynedd fu farw tra’n rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd.

Roedd Michael Holt, 54, o Borthmadog yn rhwyfo o Gran Canaria yn Sbaen i Barbados ar ei ben ei hun mewn ymgais i godi arian ar gyfer dwy elusen.

Fe ddechreuodd Mr Holt ar ei daith ym mis Ionawr, ond daeth i'r amlwg bron i wythnos yn ôl ei fod wedi dechrau teimlo'n sâl.

Yn ôl neges gan deulu Mr Holt ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sul, fe gafodd ei ddarganfod wedi marw yng nghaban ei gwch dros y penwythnos.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gael cymorth i Michael dros y pedwar diwrnod diwethaf ond wedi’i chael hi’n anodd dros ben i wneud hynny,” meddai'r neges.

Dywedodd David Holt mewn neges ar Facebook bod ei frawd wedi marw yn "gwneud rhywbeth yr oedd wir eisiau ei wneud".

"Mae hyn yn sioc enfawr i mi, ei wraig Lynne a’i ferch Scarlett a fy rhieni, heb sôn am deulu a ffrindiau enhangach," meddai.

"Diolch yn fawr am y geiriau a'r dymuniadau caredig yr ydych eisoes wedi anfon atom dros y dyddiau diwethaf. Maen nhw’n golygu llawer iawn i’r teulu i gyd."

Dywedodd un person ar Facebook: "Rwy'n mor drist i glywed am farwolaeth gŵr bonheddig a oedd yn gwneud rhywbeth yr oedd yn ei garu. Rwy'n meddwl am ei deulu. Mae'r newyddion yn sioc i'r dref."

Dywedodd unigolyn arall: "Roedd yn ysbrydoledig, ac fe roedd pawb yn falch iawn ohono. Roedd yn fraint cael mynd i siop ei fam a'i dad i gael melysion tra'n tyfu fyny. Cwsg mewn hedd."

Llun: Michael Holt

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.