Rhybudd am adferiad economaidd Sir Gâr

Rhybudd am adferiad economaidd Sir Gâr
Mae yna rybuddion y gall gymryd tair blynedd i economi Sir Gaerfyrddin gyrraedd yr un lefel ag yr oedd cyn y pandemig, yn ôl Bwrdd Gweithredol y cyngor.
Daw hyn wrth i’r bwrdd bleidleisio dros gynllun i geisio adfer economi’r sir wedi Covid-19.
Gobaith y cyngor yw gwarchod swyddi’r ardal, a chreu 1,700 o rai newydd.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y cyngor, mae yna ddyfodol ansicr ar gyfer 10,000 o swyddi’r sir, gyda 1,400 o fusnesau yn wynebu mynd i’r wal.
Dywedodd Sharon Richards o Dwristiaeth Sir Gâr fod busnesau lletygarwch yn parhau i wynebu sefyllfa “heriol”.
Eglurodd fod busnesau yn “gweld hi’n anodd cael y staff” a bod nifer o bobl yn canslo gwyliau wrth i reolau ar deithio tramor newid.
Wrth drafod y cynllun newydd, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Emlyn Dole, y bydd mwy o bwyslais ar brynu nwyddau a gwasanaethau yn lleol.
Dywedodd fod y cyngor yn gobeithio codi hyn o ryw 30%.