Aelod Seneddol Plaid Cymru yn galw am lacio rheolau busnesau llety gwyliau
Aelod Seneddol Plaid Cymru yn galw am lacio rheolau busnesau llety gwyliau
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi galw am lacio'r rheolau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno i fynd i’r afael ag ail-gartrefi.
Ers mis Ebrill 2023 mae’n rhaid i berchnogion llety gwyliau sydd eisiau cymhwyso i dalu treth busnes yn hytrach na threth cyngor lenwi’r llety am 182 diwrnod. Roedd y trothwy yn arfer bod yn 70.
Mewn cyfweliad ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Ben Lake AS fod y trothwy 182 diwrnod yn rhy uchel ac fe alwodd ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r polisi.
“Rwy i mo'yn gweld y Llywodraeth yn edrych ar y dystiolaeth a phrofiad go iawn. Hyd yn hyn, o’r holl fusnesau sydd wedi cysylltu â fi 'dw i yn rhagweld na gostwng y trothwy fydd hi. O bosib dim o ryw lawer, ond yn sicr bydd gostyngiad o ryw fath.”
Dywedodd Mr Lake, sydd wedi cynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan ers 2017, nad oedd yn erbyn gosod trothwy, ond bod yn rhaid iddo fod yn un sy’n deg i fusnesau.
Dywedodd bod yn rhaid “sicrhau nad ydyn ni yn gweld busnesau go iawn yn gorfod cau ac yn aml iawn, busnesau teulu sy’ ‘di bod yn rhedeg ers degawdau, yn gorfod rhoi fyny oherwydd di nhw ddim yn gallu cyrraedd y trothwy ‘na.”
Roedd mynd i’r afael ag ail-gartrefi yn un o brif faterion y Cynllun Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021. Wrth gyflwyno’r polisïau, gan gynnwys y trothwy 182 diwrnod, dywedodd yr Aelod Senedd Cymru o Blaid Cymru, Siân Gwenllian fod y newid yn “gam cyntaf, ond yn un pwysig, ar y daith tuag at system dai newydd.”
Dywedodd Mr Lake fod bwriad Llywodraeth Cymru yn un dilys ond bod angen cyflwyno mwy o hyblygrwydd sy’n gwahaniaethu rhwng pobl sy’n “cymryd mantais o’r system, a busnesau go iawn.”
“Mae fe ond yn iawn fod y rheiny sy’n eu defnyddio nhw fel ail dŷ yn talu'r treth. Mae ‘na wahaniaeth pwysig rwy'n credu rhwng y busnesau sy’ ‘di arallgyfeirio a’r rhai sydd wedyn wedi prynu tai preswyl mewn trefi a phentrefi am yr unig reswm i neud arian bach clou.”
I gyrraedd y trothwy 182 diwrnod fe fyddai yn rhaid i berchnogion llety gwyliau osod eu heiddo trwy gydol y gwyliau ysgol, sy’n 91 noswaith, yn ogystal â phob un penwythnos sy’n weddill mewn blwyddyn, a mwy.
Mae Anna Raymond yn rhedeg llety gwyliau Plas Pantyderi ym Boncath, Sir Benfro. Cafodd y tŷ 10 ystafell sy’n cysgu 21 o westeion ei drosglwyddo i’w chwiorydd a hithau. Cyn hynny roedd ei mam-gu a’i thad-cu yn rhedeg Pantyderi fel gwesty gwely a brecwast.
Petai Anna yn methu â chyrraedd y trothwy 182 diwrnod, bydd hi’n methu a chymhwyso am dreth busnes, ac felly yn gorfod talu y premiwm treth cyngor.
O fis Ebrill bydd y premiwm yn Sir Benfro yn codi i 200%, sydd i Anna, yn golygu bil o ryw £12,000.
“Mae’r trothwy 182 diwrnod yn uchel iawn, mae fe’n lot - licien i fod na rywun 'ma bob dydd o’r flwyddyn. Ni’n gweithio yn galed, ond yn realistig, ni yn ganol y wlad fan hyn, bydde fe’n galetach i ni cael y 182 o ddiwrnodie.”
Er mai bwriad y polisi yw creu marchnad dai sy'n deg, mae Anna yn dweud bod llawer o’r ail-gartrefi sy’n cael eu rhedeg fel llety hunan-arlwyo yn rhy ddrud i bobl leol.
Yn ddiweddar, mae'n dweud iddi gael cynnig yn y miliynau am Blas Pantyderi gan westeion o Iran oedd yn gweithio yn y diwydiant ariannol. “Bydde dim ots ganddyn nhw faint o nosweithiau bydden nhw ‘ma,” meddai Anna, sydd hefyd wedi cwestiynu y cyfiawnhad tu ôl y ffigwr 182 diwrnod.
“Sai’n gwbod lle mae nhw di cael y ffigwr 182 ond ma fe yn lawer rhy uchel, so cyn 'ny oedd e’n 70, so ma nhw di mwy na dyblu’r ffigwr ‘na a mwy, a sai’n gwbod sut mae rywun yn dod i’r penderfyniad bo nhw’n mynd i ddyblu’r ffigwr a mwy, os bydde fe yn 140 bydde hwna yn eitha teg, ond dyw 182 ddim yn deg.
Mewn ymgynghoriad yn 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn i’r cyhoedd beth ddylai’r trothwy newydd fod. O’r 900 o ymatebwyr, 9 oedd wedi awgrymu 182 diwrnod, neu chwe mis o’r flwyddyn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r trothwy yn adlewyrchu eu polisi y dylai llety hunan-arlwyo fod yn gweithredu fel busnesau am hanner y flwyddyn i gymhwyso am drethi busnes.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r newidiadau i'r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunanarlwyo ac ail gartrefi wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maen nhw'n berchen ar gartrefi neu'n rhedeg busnesau.
“Credwn fod gan bawb hawl i gartref gweddus a fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol.
"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion."
Y Byd ar Bedwar: Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C/Clic a BBC iPlayer