Cyfeirio'r Sgowtiaid at yr heddlu ar ôl i gwest ganfod bod bachgen wedi'i ladd yn anghyfreithlon ar Ben y Gogarth
Cyfeirio'r Sgowtiaid at yr heddlu ar ôl i gwest ganfod bod bachgen wedi'i ladd yn anghyfreithlon ar Ben y Gogarth
Mae Cymdeithas y Sgowtiaid ac aelod o staff y mudiad wedi’u cyfeirio at yr heddlu, wedi i gwest ddod i’r casgliad bod llanc a fu farw ar daith i Ben y Gogarth wedi’i ladd yn anghyfreithlon.
Bu farw Ben Leonard wedi iddo ddisgyn 200 troedfedd ger Llandudno yn 2018. Roedd y bachgen ar daith gyda’r Sgowtiaid Reddish Explorer o Stockport ym Manceinion ar y pryd.
Roedd mam Ben mewn dagrau pan gyhoeddwyd y dyfarniad yn y cwest ym Manceinion.
"Rydan ni wedi bod yn methu symud ymlaen, gyda'r teimlad rhyfedd nad oedd Ben rhywsut wedi cael marw heb i ni gael tystysgrif marwolaeth. Nawr bydd yn gallu cael heddwch," meddai Jackie Leonard.
"Dydan ni erioed wedi cael unrhyw ffydd yn y Sgowtiaid. Mae'n rhaid i'r penderfyniad yma heddiw olygu y byddan nhw'n cael eu harolygu gan gorff allanol."
Dyma'r ail gwest i farwolaeth y llanc, wedi pryderon fod y rheithgor yn yr achos cyntaf wedi’u camarwain gan Gymdeithas y Sgowtiaid.
Mae cyfreithwyr teulu Ben yn honni bod yna 12 marwolaeth yn gysylltiedig a'r Sgowtiaid neu teithiau'r Sgowtiaid yn ystod y 30 mlynedd diwethaf
Clywodd y cwest fod Ben a dau ffrind wedi cymryd llwybr gwahanol i Sgowtiaid eraill, heb oruchwyliaeth unrhyw arweinydd, a oedd wedi “colli” y tri ar y Gogarth.
Roedd Ben yn sefyll ar silff 50cm o led, ar drac anifail, pan lithrodd a syrthio i'w farwolaeth.
Penderfynodd rheithgor fod Ben wedi’i ladd yn anghyfreithlon, gydag esgeulustod gan Gymdeithas y Sgowtiaid yn cyfrannu at ei farwolaeth.
Yn ystod y cwest, gwrthododd arweinydd y Sgowtiaid ar y daith ateb cyfres o gwestiynau gan Ben Richmond KC, y bargyfreithiwr oedd yn cynrychioli teulu Ben.
Mae David Pojur, crwner cynorthwyol dwyrain a chanolog Gogledd Cymru, wedi gofyn i Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i ymddygiad Cymdeithas y Sgowtiaid a gweithiwr gyda'r mudiad, Mae gorchymyn llys yn atal enwi'r gweithiwr dan sylw.
Mae'r crwner eisiau i'r heddlu ymchwilio i achos posib o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ni chafodd rheithwyr wybod am ymchwiliad posib gan yr heddlu, a roedd y cyfryngau wedi cael gorchymyn i beidio a son amdano hyd nes i'r rheithgor ddod i benderfyniad.
Gwnaeth cyfreithwyr Cymdeithas y Sgowtiaid a sawl unigolyn arall gais i ymestyn y gwaharddiad am gyfnod amhenodol.
Ymddiheuro
Ar ddechrau’r cwest, y trydydd ar ôl i ddau gwest blaenorol gael eu diddymu, fe wnaeth Cymdeithas y Sgowtiaid ymddiheuro’n gyhoeddus am y tro cyntaf, a derbyn cyfrifoldeb am farwolaeth Ben.
Ond dywedodd mam Ben, Jackie Leonard wrth y gwrandawiad fod eu hymddiheuriad bum mlynedd a hanner yn rhy hwyr a bod triniaeth ei theulu wedi bod yn “ffiaidd”.
Ychwanegodd: “Mae e fel nad oedd ots ganddyn nhw amdanan ni, a bod dim ots am Ben chwaith.”
Disgrifiodd ei mab fel bachgen “meddylgar, doniol iawn, hynod o ffraeth” a ymunodd â’r Beavers yn bump oed. Roedd yn ddarllenwr brwd ac yn hoff o ffilmiau ac yn bwriadu astudio teledu a ffilm yn y coleg.
Ond dywedodd Mrs Leonard fod Cymdeithas y Sgowtiaid wedi ceisio portreadu ei mab fel “plentyn gwyllt”, gan gymryd agwedd “amddiffynnol.”
Clywodd y cwest hefyd fod Cymdeithas y Sgowtiaid wedi dweud celwydd wrth deulu Ben gan eu bod yn poeni am “ddifrod i'w enw da”.
'Methiant'
Clywodd rheithgor y cwest bod teulu Ben wedi cael gwybod, “dydi pobol sy’n ceisio herio’r Sgowtiaid byth yn llwyddiannus” ac “na all neb gyffwrdd â’r Sgowtiaid” er ei bod yn amlwg o ddiwrnod marwolaeth Ben, bod pethau "wedi mynd o'i le yn ofnadwy."
Dywedodd Bernard Richmond KC, wrth y gwrandawiad y gallai bywyd Ben fod wedi’i achub ond am “fethiant sylfaenol y gofal” i roi cyfarwyddiadau syml am feysydd i’w hosgoi a llwybrau sy’n ddiogel ar y Gogarth.
Clywodd rheithgor y cwest awgrymiadau fod yr arweinydd wedi credu bod arweinydd arall hefyd yn mynd ar y daith, dim ond i ddarganfod nad oedd yn bresennol pan gyrhaeddodd eu maes gwersylla yn Eryri.
Roedd yn golygu nad oedd unrhyw swyddog cymorth cyntaf cymwys yn bresennol ar gyfer y daith, yn groes i reolau'r mudiad. O gnalyniad, ddylai'r daith ddim fod wedi ei chynnal.
Cytunodd yr arweinydd nad oedd wedi rhybuddio unrhyw un o'r Sgowtiaid, gan gynnwys Ben, i beidio â gadael y llwybrau dynodedig i fyny'r Gogarth a nad oedd yn ymwybodol o beryglon ymylon y clogwyni.
Cytunodd y tyst nad oedd Cymdeithas y Sgowtiaid byth yn monitro eu gweithgareddau nac yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant yr oedd i fod i'w gael erioed wedi'i wneud.
Ymateb y Sgowtiaid
Wedi'r cwest, dywedodd Jennie Price, cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas y Sgowtiaid: “Rydym yn cymryd casgliad heddiw o ddifrif. Rydym am ail-ddatgan ein hymddiheuriad llwyr i deulu Ben Leonard ac mae ein cydymdeimlad dwysaf yn parhau i fod gyda’i deulu a’i ffrindiau.
“Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i addysgu. Clywodd y rheithgor nad oedd yr arweinwyr lleol yn yr achos hwn yn dilyn ein rheolau a'n prosesau diogelwch.
"O ganlyniad i farwolaeth drasig Ben yn 2018, rydym eisoes wedi gwneud llawer o newidiadau i’n hasesiadau risg, rheolau diogelwch, hyfforddiant a chymorth rydym yn darparu i’n gwirfoddolwyr.
“Byddwn yn adolygu sylwadau’r crwner yn agos ac yn mabwysiadu pob newid pellach y gallwn, i wneud popeth o fewn ein gallu i atal digwyddiad mor drasig rhag digwydd eto.
“Cadw pobl ifanc yn ddiogel rhag niwed yw ein prif flaenoriaeth yn Sgowtiaid o hyd. Rydym yn gwrthod yn bendant honiadau a wnaed yn y llys am unrhyw gamau troseddol ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid.”