'Gymaint mwy i'r diwydiant comedi na jyst y comedïwr'
'Gymaint mwy i'r diwydiant comedi na jyst y comedïwr'
Mae rhannau o’r sector comedi a cherddoriaeth fyw wedi cael ailagor ddydd Llun, 21 Mehefin.
Mae newidiadau i gyfyngiadau’r sector yn golygu y bydd rhai lleoliadau comedi a cherddoriaeth “bach” yn cael gweithredu yn yr un modd â’r diwydiant lletygarwch, megis tafarndai a bwytai.
O ddydd Llun ymlaen, fe fydd hi'n bosib i grwpiau o hyd at chwe pherson o chwe chartref gwahanol fynychu digwyddiadau byw ar draws Cymru.
Dywedodd y comedïwr, Esyllt Sears, wrth Newyddion S4C: "Ma' 'na gymaint mwy i'r diwydiant comedi na jyst y comedïwr sydd yn sefyll ar lwyfan.
"Ma' gigs yn rhoi gwaith i bobl technegol, pobl sain, goleuo, asiantwyr, pobl sydd yn hyrwyddo nosweithiau comedi a'r lleoliadau eu hunain hefyd", ychwanegodd.
Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn anodd i nifer, y gobaith yw y bydd y cyfle i gael gwylio sioeau comedi unwaith eto yn galluogi pobl i fwynhau.
Er bod nifer o leoliadau comedi a cherddoriaeth yn medru ailagor, mae’r newidiadau diweddar yn golygu fod rhaid i sefydliadau ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn golygu fod rhaid i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol a pharhau i wisgo gorchuddion wyneb, oni bai eu bod yn eistedd neu’n bwyta ac yfed.
Petai diodydd a bwyd yn cael eu cynnig, fe fyddai'n rhaid i leoliadau ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig ac fe ddylai unrhyw fwyd neu ddiod gael ei fwyta neu ei yfed wrth y bwrdd hefyd, fel yn y sector lletygarwch.
Daw’r newidiadau diweddar yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddydd Gwener diwethaf lle cadarnhaodd y byddai'r llywodraeth yn oedi llacio cyfyngiadau am bedair wythnos.
Yn y sector theatr, chwaraeon, a sectorau eraill, bydd digwyddiadau peilot hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.
Llun: The Hyst