Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yng Nghaerdydd
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn ardal Trebiwt o Gaerdydd dros y penwythnos.
Bu farw Ibrahim Yassin, 64 oed, yn dilyn ymosodiad difrifol ar 18 Chwefror.
Bydd Mujeeb Rahman Hassani, 38 oed, o ardal Trebiwt o'r brifddinas, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, i wynebu'r cyhuddiad o lofruddio Mr Yassin.
Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i deulu Mr Yassin am y datblygiad, ac mae swyddogion cyswllt teulu yn parhau i'w cefnogi.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: “Mae marwolaeth Mr Ibrahim Yassin wedi achosi galar a thrallod aruthrol i’w deulu a chymuned glos Trebiwt.
"Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.
“Bu presenoldeb heddlu sylweddol yn Nhrebiwt yr wythnos hon a hoffem ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth yn ystod ein hymchwiliad.”
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am y digwyddiad i gysylltu gan ddyfynnu’r rhif digwyddiad 2400056193.
Llun: Ibrahim Yassin (Heddlu De Cymru)