Newyddion S4C

John Sam: 'Un o blant Satan o'n i yn hytrach nag un o blant Duw'

25/02/2024

John Sam: 'Un o blant Satan o'n i yn hytrach nag un o blant Duw'

"Roeddwn yn meddwl mai un o blant Satan oeddwn i yn hytrach nag un o blant Duw."

Mewn pennod arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol nos Sul, fe fydd y rhaglen yn ymweld â’r Almaen am y tro cyntaf, a hynny fel rhan o ddathliadau mis LHDTC+. 

Yno bydd Nia Roberts yn cwrdd â’r awdur a’r ymgyrchydd hawliau hoyw John Sam Jones, sydd yn siarad yn ddiffuant a gonest iawn am ei berthynas ef â’r eglwys.

Mewn sgwrs ddirdynnol â Nia mae John Sam yn sôn am ei gyfnod yn Ysbyty Meddwl Dinbych yn 18 oed, lle cafodd driniaeth er mwyn ceisio ‘gwella’ rhag bod yn hoyw.

'Electric Shock Therapy'

Cytunodd John Sam i dderbyn Electric Shock Aversion Therapy

Roedd theori ar y pryd hwnnw fod y sioc drydan a’r teimladau hoyw i fod i wrthdaro a pheri iddo benderfynu newid ei gyfeiriadedd rhywiol. 

“Dwi’n gwbl glir bod y fath driniaeth yn gamdriniaeth. Odd o ddim yn newid fy nghyfeiriadedd rhywiol." meddai John Sam.

“O’n i’n gwybod bod y camdriniaeth wedi dinistrio rhan bwysig o mhersonoliaeth i.”

O fewn tridiau i gael ei ryddhau o’r ysbyty, ceisiodd John Sam ladd ei hun.

Image
John Sam

'Gwrthod dro ar ôl tro'

Cafodd John Sam ei fagu yn y Bermo, Sir Feirionnydd, ar aelwyd Gristnogol gan fynychu’r eglwys Galfinaidd yn lleol, ond mae'n teimlo ei fod wedi cael ei wrthod dro ar ôl tro gan y sefydliad Gristnogol.

“Roedd diwinyddiaeth Calfinaidd, yr holl ddelwedd, yn eithaf negyddol ynglŷn â phechod a Satan – oherwydd fy magwraeth o fewn yr eglwys yr unig ffordd oeddwn i yn medru deall oedd mai un o blant Satan oeddwn i yn hytrach nag un o blant Duw," meddai.

“Oeddwn i’n teimlo mai fi oedd yr unig un, o’n i’n berson mor ddrwg faswn i ddim yn medru  siarad efo neb amdan y peth.”

Ond tra yn yr ysbyty yn dod at ei hun ar ôl bod mewn coma a chyfnod tywyll iawn, daeth i gysylltiad â dau oedd yn barod i wrando.

Angor

Y Parch Huw Wynne Griffith a’i wraig Mair fu’n gefn ac yn gymorth i John Sam. 

Meddai: “Nath o rhoi angor – wnaethon nhw gynnig i mi aros efo nhw... Yn aml fasa Mair yn aros â mi yn y dydd yn gwrando arna i ac ar chants Taizé – odd na un chant pwysig a dylanwadol dros ben: Lle bo’ graslonrwydd a chariad yno y mae Duw.

“Dyma Huw yn deud ’tha i: Wyt ti’n un o blant Duw ac os wyt ti’n ddyn hoyw y peth pwysig sydd rhaid i ti ei wneud ydi ceisio bod y dyn hoyw gorau medru di fod.”

Image
John Sam

Er bod John Sam yn teimlo iddo ddioddef camdriniaeth trwy ei fywyd, a bod sefydliad yr eglwys wedi ei wrthod ar sawl achlysur, mae’n sicr 'nad yw Duw wedi ei wrthod', ac meddai fod ei ffydd ynddo mor gadarn ag erioed.

Mae’n cofio am gyngor a gafodd gan weinidog yn San Francisco pan bu yno’n astudio gyda chefnogaeth Cyngor Eglwysi Cymru.

“Nid [fy ngwaith i oedd] mynd â Crist i bobol, ond gweld wyneb Crist ym mhob un sydd ar y stryd. Y digartref, y putain, y dyn hoyw. A dwi wedi ceisio ers degawdau i weld wyneb Crist ym mhawb," meddai.

“Heb y ffydd gref yna sydd yn fy nghynnal i faswn i ddim wedi goroesi.”

Dechrau Canu Decrau Canmol - Nos Sul, 25 Chwefror 19:15

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.