Newyddion S4C

Rygbi: Dim Llanelli, Merthyr na Chastell-nedd yng nghystadleuaeth clybiau elît newydd

13/02/2024
Castell-nedd / Y Gnoll

Mae’n ymddangos na fydd rhai o glybiau rygbi enwocaf Cymru yn ymuno â chynghrair elît newydd y tymor nesaf.

Ddydd Llun, fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru (URC) gyhoeddi enwau naw allan o’r deg tîm fydd yn cymryd rhan yng Nghynghrair Datblygu Elît (EDC) newydd o’r tymor 2024/25 ymlaen.

Mae’r naw tîm eisoes yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Grŵp Indigo Cymru: Aberafan, Abertawe, Casnewydd, Cwins Caerfyrddin, Glyn Ebwy, Llanymddyfri, Pen-y-bont, Pont-y-pŵl, RGC 1404.

Fe wnaeth un tîm arall, Castell-nedd, wneud cais i ymuno â’r gynghrair.

Ond yn ôl y clwb, fe gafodd eu cais ei wrthod gan yr Undeb, cam mae’r clwb wedi ei ddisgrifio fel un “gwarthus”.

Y rhai fydd ddim yn ymuno

Mae rhai clybiau hefyd wedi datgan nad ydynt yn bwriadu ymuno â’r gynghrair.

Fe wnaeth y Scarlets ryddhau datganiad ddydd Llun yn cyhoeddi na fydd tîm o Glwb Rygbi Llanelli yn rhan o’r EDC, ar sail “diffyg adnoddau”.

Ychwanegodd y rhanbarth eu bod wedi arwyddo cytundeb i gyd-weithio gyda chlybiau Cwins Caerfyrddin a Llanymddyfri.

Nid oedd y rhanbarth wedi rhoi cadarnhad ynglŷn â dyfodol y clwb, sydd ddim â thîm sydd yn chwarae ar hyn o bryd, ar ôl i Lanelli tynnu allan o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf,

Yn ogystal, mae Merthyr wedi datgan na fyddan nhw’n rhan o’r gystadleuaeth newydd, gan ddeud eu bod yn “disgwyl yn eiddgar i weld strwythur newydd yr Uwch Gynghrair” yn sgil sefydliad yr EDC.

Dywedodd yr Undeb eu bod yn parhau i chwilio am y degfed clwb i ymuno â’r EDC.

Roedd clybiau Pontypridd a Chaerdydd wedi datgan y llynedd nad oeddent yn bwriadu ymuno â’r gynghrair, ond mae adroddiadau yn awgrymu bod Caerdydd yn ystyried mynd yn ôl ar y penderfyniad hwnnw.

‘Gwarthus’

Yn ôl datganiad ar gyfrwng cymdeithasol X gan Glwb Rygbi Castell-nedd, cafodd eu cais i ymuno â’r EDC ei wrthod ar sail; gradd credyd a sefyllfa ariannol negatif, cynllun busnes “rhy uchelgeisiol”, a “diffyg perthynas” gyda rhanbarth y Gweilch.

“Rydym yn pwyllo cyn hysbysu ynglŷn ag ein camau nesaf, ac er i ni gydymffurfio â phob un o derfynau amser yr URC, maen nhw wedi cynnig llefydd yn y gynghrair i bob un o’r clybiau eraill a ymgeisiodd. Rydym yn sicr y byddai’r cyhoedd yn cytuno ei fod yn benderfyniad gwarthus.”

Mewn ymateb, dywedodd Prif Weithredwr newydd y Gweilch, Lance Bradley, bod datganiad y clwb yn “gamarweiniol”, ac yn ddiweddarach, fe wnaeth gwrdd gyda swyddogion y clwb.

Yn y cyfarfod, fe wnaeth y Gweilch a Chastell-nedd mynegi eu dymuniad i “gyd-weithio â’i gilydd”, tra bod y clwb hefyd yn gobeithio cynnal “gwelliannau” ac ail-ddatblygu rhai cyfleusterau, cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Beth yw'r EDC?

Cynghrair elît newydd ar gyfer rhai o glybiau rygbi fwyaf Cymru yw'r EDC.

Nod y gystadleuaeth, yn ôl URC, yw pontio’r bwlch rhwng y gêm amatur a’r rhanbarthau proffesiynol, sydd yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Dywedodd fod y penderfyniad dros ba glybiau fydd yn ymuno â’r gynghrair yn cael ei wneud ar sail “cynlluniau busnes, cynlluniau perfformiad rygbi a data allweddol a pherthnasol arall.”

Bydd y gystadleuaeth yn dod dan ofal a llywodraethiant y Bwrdd Rygbi Proffesiynol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad URC, Huw Bevan: “Ry’n ni angen deg o dimau er mwyn i’r gystadleuaeth newydd weithredu ar ei gorau.

“Mae’r holl broses drwyddedu yn mynd i sicrhau cystadleuaeth elît lwyddiannus a chynaliadwy yma yng Nghymru.

“Bydd y gystadleuaeth newydd yn cwblhau'r llwybr datblygu ar gyfer rygbi dynion yma yng Nghymru – ond bydd hefyd yn ffenest siop ar gyfer y gêm glwb draddodiadol – a’i hanes a’i hetifeddiaeth hefyd.

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i rygbi Cymru ac mae’n rhaid i ni osod y seiliau cywir yn eu lle i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y gystadleuaeth hon.

“Mae’r drws yn dal ar agor i glybiau eraill godi eu llaw – yn y gobaith y cawn nifer o geisiadau pellach – fel bo’r broses o ddewis y clwb olaf i gymryd rhan – yn drylwyr a chystadleuol.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.