Chwe Gwlad: Siom i Gymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham
Siom oedd hi i Gymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn wedi i dîm Warren Gatland golli o drwch blewyn yn erbyn y Saeson.
Fe wnaeth George North ddychwelyd i Gymru ac roedd ymysg saith o newidiadau i'r tîm a gollodd yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn diwethaf.
Lloegr ddechreuodd gryfaf gydag amddiffyn Cymru yn wynebu prawf cynnar wrth i Freddie Steward a George Ford ymosod.
Parhau yn ddi-sgôr oedd hi ar ôl 10 munud o chwarae, gyda Lloegr yn parhau i fygwth gyda sgrym.
Fe gafodd Ollie Chessum gerdyn melyn a'r gell gosb i Loegr ar ôl 12 munud o chwarae wedi i'w ysgwydd daro pen Keiron Assiratti.
Ar ôl 17 munud, llwyddodd Cymru i ymosod ac ennill cais cosb gan olygu fod Cymru ar y blaen o 0-7.
Derbyniodd Ethan Roots gerdyn melyn gan olygu ail chwaraewr i Loegr yn cael ei anfon i'r gell gosb mewn llai na 10 munud.
Ond o fewn ychydig funudau, llwyddodd Ben Earl i sgorio cais i Loegr gan ei gwneud hi'n gyfartal.
Ni lwyddodd George Ford i fantesio ar ychwanegu dau bwynt arall i Loegr drwy'r trosiad wedi iddo oedi gan ganiatáu amddiffynnwyr Cymru i atal ei gyfle i'w gwneud yn gêm gyfartal.
Roedd tîm ifanc Cymru yn ei gwneud hi'n anodd i Loegr ymosod ac roedd y dorf yn Twickenham yn parhau yn rhwystredig wedi'r penderfyniad am drosiad George Ford.
Roedd Rio Dyer ar dân i Gymru unwaith yn rhagor i Gymru wrth iddo redeg ar ôl cic Cameron Winnett, ond llwyddodd George Ford i glirio.
Roedd hi'n foment i'w chofio i Alex Mann ar ôl 37 munud o chwarae, wedi'r bêl gael ei phasio o ganol y cae gan Gymru a galluogi Reffell i basio'r bêl i Tomos Williams a wnaeth ei anfon i Mann i sgorio'r cais wrth iddo ddechrau am y tro cyntaf dros ei wlad.
Llwyddodd Ioan Lloyd i drosi, gan olygu mai 5-14 oedd hi i Gymru ar ddiwedd y hanner cyntaf.
Ail hanner
Roedd hi'n 40 munud mawr i'r ddau dîm ar ddechrau'r ail hanner.
Daeth cyfle cynnar posib i Loegr ddod yn agosach at Gymru wedi i Elliot Daly anelu am y gornel gan arwain at amddiffyn dewr gan Cameron Winnett.
Ond llwyddodd George Ford drosi i Loegr wedi cic gosb gan ychwanegu tri phwynt at sgôr y Saeson.
Daeth cyfle enfawr i Gymru ar ôl 56 munud wedi pêl hyfryd gan Ioan Lloyd i Cameron Winnett sy'n gwibio lawr y cae.
Llwyddodd Josh Adams i barhau gyda'r symudiad a phasio'r bêl i Dyer ond ni wnaeth llwyddo i gadw'r bêl.
Roedd Lloegr yn bygwth yn barhaus am gais gyda 20 munud i fynd ac fe wnaeth Dingwall lwyddo i sicrhau'r cais.
Ond Cymru oedd yn parhau ar y blaen wedi i Ford fethu â throsi.
Gyda llai na 10 munud, fe gafodd Brady gerdyn melyn a'i anfon i'r gell gosb, a chic gosb i Loegr a chyfle i roi'r Saeson ar y blaen.
16-14 oedd hi i Loegr ac roedd Cymru yn parhau gydag un chwaraewr yn llai ar y cae.
Ni lwyddodd Cymru i frwydro yn ôl gan olygu mai colli o drwch blewyn oedd hanes tîm Warren Gatland yn Twickenham.