Newyddion S4C

Awyren fach wedi plymio i'r ddaear ger Llangefni ar Ynys Môn

10/02/2024

Awyren fach wedi plymio i'r ddaear ger Llangefni ar Ynys Môn

Mae awyren fach wedi plymio i'r ddaear ym Modffordd ger Llangefni ar Ynys Môn. 

Cafodd y gwasanaeth tân, ambiwlans a'r heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Llangefni wedi i'r sawyren lanio mewn gardd gefn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mewn datganiad fod swyddogion wedi ymateb i'r ddamwain yn ardal Cae Bach Aur, Bodffordd ychydig cyn 13:45.

Dywedodd Steve Davies, sy’n byw drws nesaf, wrth asiantaeth newyddion PA ei fod wedi clywed sŵn “fel injan yn cam-danio ac yn torri allan” ac yna “sŵn fel coed yn cael eu taro a chlec uchel”.

“Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn awyren ysgafn yn chwalu nes i fy nghymydog ddod draw yn gofyn a welais unrhyw beth,” meddai.

“Bryd hynny roedd yr heddlu a’r gwasanaeth tân ar y ffordd.”

Dywedodd Mr Davies ei fod yn “iawn” nawr, gan ychwanegu ei fod yn ddiolchgar am ba mor gyflym y gwnaeth y gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn datganiad brynhawn Sadwrn: "Am 13:44 ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni dderbyn adroddiadau fod awyren fach wedi plymio i'r ddaear ym Modffordd ger Llangefni.

"Fe wnaethom ni fynychu'r digwyddiad, ynghyd â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chriwiau ambiwlans. 

"Dim ond y peilot, oedd yn ddyn, oedd yr unig berson ar yr awyren ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty gan yr Ambiwlans Awyr gydag anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd.

"Does dim adroddiadau eraill o anafiadau yn sgil y digwyddiad."

Image
Awyren Bodffordd
Rhan o'r awyren mewn gardd gefn ym mhentref Bodffordd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.