Peter Crouch: Hen Wlad Fy Nhadau a fi
Beth ydy'r cysylltiad rhwng cyn-chwaraewr Lerpwl a Lloegr Peter Crouch ac anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau?
O Lerpwl i Tottenham Hotspur i Stoke City, chwaraeodd Crouch bron i 600 o gemau i amryw o glybiau pêl-droed yn ystod ei yrfa yn ogystal â chynrychioli Lloegr yng Nghwpan y Byd a'r Ewros.
Wedi ei eni ym Macclesfield, symudodd gyda'i deulu i Singapore yn un oed wedi i'w dad gael swydd yno.
Ar ôl cyfnod o dair blynedd yn byw yn Ne-ddwyrain Asia, symudodd y teulu yn ôl i Loegr i fyw ym mhentref Harrow on the Hill ger Llundain.
Yn dilyn ei ymddeoliad o'r gamp yn 38 oed, mae Crouch wedi mynd ymlaen i sefydlu gyrfa yn ei hun yn y maes teledu.
Yn briod gydag Abbey Clancy ers 2011, mae'r ddau bellach wedi sefydlu podlediad o'r enw The Therapy Crouch.
Canu
Wrth siarad yn y bennod ddiweddaraf, mae Crouch yn canu ychydig o anthem Cymru, Hen Wlad fy Nhadau, ac yn egluro sut mae wedi ei dysgu.
"Am fod gen i brifathro Cymraeg a wnaeth wneud i ni ddysgu anthem genedlaethol Cymru," meddai.
"Ro'n i'n gwybod honna cyn anthem Lloegr!
"Rydym ni i gyd yn Saesneg mewn ysgol Saesneg ac fe wnaeth Mr Evans wneud yr ysgol i gyd i ddysgu anthem genedlaethol Cymru."
Dywedodd ei wraig, Abbey Clancy: "Dwi'n meddwl bod hynny yn beth da."
Ychwanegodd Crouch: "Chwarae teg iddo, ac mae'n rhywbeth nad ydw i erioed wedi ei anghofio.
"Yn amlwg, fydd yna nifer o bobl Cymraeg fydd yn gwrando i hwn ac yn dweud nad yw'n gywir o ran tafodiaith o gwbl, ond dwi dal yn cofio'r anthem."