Newyddion S4C

Ymosodiad alcali: Heddlu'r Met yn chwilio Afon Tafwys am gorff dyn dan amheuaeth

10/02/2024
Heddlu Afon Tafwys

Mae Heddlu'r Met yn archwilio Afon Tafwys am gorff dyn dan amheuaeth o gyflawni ymosodiad ag alcali ddiwedd mis Ionawr.

Yn ôl y llu mae’n bur debyg fod y dyn maen nhw’n chwilio amdano bellach wedi marw ar ôl iddo fynd i mewn i'r afon yn dilyn yr ymosodiad.

Dyw Abdul Shokoor Ezedi ddim wedi cael ei weld ers noson yr ymosodiad yn Clapham ar 31 Ionawr, pan gafodd hylif alcali ei daflu dros fam a’i dau blentyn gan achosi anaf difrifol i lygad dde'r fenyw.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, dywedodd swyddogion Heddlu’r Met eu bod nhw’n credu fod Ezedi wedi mynd i mewn i’r dŵr wedi iddo gael ei weld am y tro diwethaf ar Bont Chelsea.

Nid oes corff wedi’i ganfod, ac mae’r llu yn dweud bod posibilrwydd cryf na fyddan nhw’n dod o hyd i gorff.

Cafodd Ezedi ei weld ar ddelweddau camerau cylch cyfyng yn “cerdded gyda phwrpas” am bedair milltir ger Afon Tafwys. Mae’n ymddangos fod ei ymddygiad wedi newid pan gyrhaeddodd Pont Chelsea.

Cafodd ei weld yn "pwyso” dros ochr y bont ar ddelweddau CCTV.

Dywedodd swyddog o Heddlu’r Met ddydd gwener fod yr heddlu wedi treulio’r 24 awr ddiwethaf yn astudio delweddau camerau cylch cyfyng yn “fanwl”, gan ddod i’r casgliad ei fod mwy na thebyg wedi mynd i’r dŵr.

Llun: PA


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.