Newyddion S4C

'Ro’n i’n meddwl ‘mod i am farw': Profiad dyn ifanc o Fôn ar ôl cael ei drywanu

Y Byd ar Bedwar 12/02/2024

'Ro’n i’n meddwl ‘mod i am farw': Profiad dyn ifanc o Fôn ar ôl cael ei drywanu

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae nifer y troseddau sy’n ymwneud â chyllyll wedi cynyddu ar draws Cymru. 

Bu bron i Chris Griffith farw ar ôl iddo gael ei drywanu gyda chyllell ar 7 Ionawr 2022, yn Nhan-yr-Efail yng Nghaergybi. 

Mewn cyfweliad ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd y dyn ifanc o Landrygarn, Sir Fôn ei fod yn dal i feddwl am y noson, a bod “pob dim wedi newid” ers iddo gal ei drywanu. 

Roedd Chris yn 17 oed pan gafodd ei drywanu â chyllell. 

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Y Byd ar Bedwar yn dangos bod mwy nag 800 o achosion yn ymwneud â throseddau â chyllyll wedi bod yn ardal Heddlu Gogledd Cymru hyd at fis Tachwedd llynedd. Roedd 88 o’r rheiny’n cynnwys pobl dan 18 oed.

Aeth Chris i Dan-yr-Efail y noson honno i gwrdd â bachgen yr oedd yn ei adnabod o’i gyfnod yn yr ysgol, i drafod anghytundeb dros ferch. 

“Gwnaeth o ofyn i fi ysgwyd ei law o, so gwnes i ysgwyd ei law o - ac wedyn gwaneth o ‘ngael i ac fe wnaeth o redeg.”

Cafodd Chris ei drywanu yn ei stumog rhwng ei chwarren brostad a’r coluddyn, gyda chyllell oedd yn mesur 8 centimedr. 

Fe wnaeth un o ffrindiau Chris fynd ag e ar frys i Ysbyty Gwynedd ym Mangor am driniaeth i achub ei fywyd. Roedd yn rhaid iddo gael pedair awr o lawdriniaeth, ac fe wnaeth o golli chwarter o’i waed. 

“Ro’n i’n meddwl ‘mod i am farw," meddai. 

Gyrfa yn y fyddin

Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i Chris gael ei drywanu. Roedd o’n filwr ifanc gyda gyrfa lewyrchus o'i flaen, ond mae wedi gorfod gadael y fyddin o ganlyniad i’r ymosodiad.

“Fe wnes i brofi ‘mod i’n ddigon ffit i fynd yn ôl, ond do’n nhw ddim yn coelio ‘mod i yna mentally i fynd yn ôl… Roedden nhw’n meddwl os dwi’n gweld cyllell neu rywbeth fyddwn i ddim yn gallu’i wneud o.

“Dyna o’dd fy mywyd i rili ac mae’n fywyd gwahanol rŵan.” 

Mae Chris yn dal i feddwl am y noson sydd wedi newid trywydd ei yrfa. 

“Dwi’n meddwl amdano fo bob nos, dwi heb fynd un dydd heb feddwl am beth wnaeth ddigwydd a jyst… mae’n cymryd motivation fi gyd… roedd yna ddwy flynedd o jyst army army army pob dim.”

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mewn cyfnod o flwyddyn o Fedi 2022 i Fedi 2023, roedd yna 1574 o droseddau yn ymwneud â chyllyll ac offer miniog.

Image
Gerallt Wyn Jones
Gerallt Wyn Jones

Un sy'n poeni am y sefyllfa, ac sy’n cynnal gweithdai hunanamddiffyn ar gyfer plant a phobl ifanc yn y gogledd, yw Gerallt Wyn Jones. 

“Y rheswm dwi wedi gwneud sesiwn efo cyllell i fod yn onest ydy bod yna ryw elfen yn y cyfryngau fod o ar gynnydd - dwi’n poeni am beth sy’n digwydd yn yr ardal.”

Mae Gerallt wedi bod yn cynnal sesiynau hunanamddiffyn ers 20 o flynyddoedd. Yn ôl Gerallt, mae yna sawl rheswm pam fod pobl yn cario cyllell.

“Mae yna ddau feddylfryd clir, mae yna feddylfryd ‘dwi eisiau cadw fy hun yn saff’ ac mae meddylfryddwi’n mynd i dargedu rhywun arall’. Y broblem ydy mai cadw cyllyll i gadwch hun yn saff yn berygl i’ch hun ac mae o’n berygl i’r person arall.” 

Mae gan Gerallt Wyn Jones neges glir i unrhyw un sy’n ystyried cario cyllell:

“Does yna’m neb yn curo mewn cwffio efo cyllell. Mae rywun yn mynd mewn i lot o drwbl ac mae’r llall yn mynd i frifo neu farw - so does yna’m enillwyr yn y gêm yna o gwbl.”

Mae Chris wedi dechrau swydd newydd yn gweithio i gwmni adeiladu lleol, ac fel tirluniwr. Mae o nawr yn ceisio symud ymlaen o’r hyn ddigwyddodd iddo, ac mae’r dyn wnaeth ei drywanu wedi cael ei anfon i Sefydliad Troseddwyr Ifanc. 

Cafodd James Rees ddedfryd o naw mlynedd am achosi niwed corfforol difrifol a 18 mis am fod gydag arf peryglus mewn lle cyhoeddus. Mae o hefyd wedi derbyn gorchymyn i beidio â chysylltu â Chris byth eto. 

Image
James Rees
James Rees

 

Mewn ymateb i’r ddedfryd, dywedodd Chris, “Dwi’n teimlo’n flin at yr hogyn wnaeth bron iawn fy lladd i. Dwi’n hapus ei fod o wedi cael naw mlynedd rwan. Ro’n i’n gobeithio bod o’n cael mwy, ond dwi’n hapus efo naw. Dwi’n gallu symud ymlaen gyda ‘mywyd i ‘wan."

Gwyliwch y rhaglen gyfan Nos Lun am 20.00yh ar S4C neu ar S4C Clic.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.