Dynes wedi marw ar ôl tan mewn eiddo yn Llandudno
09/02/2024
Mae dynes wedi marw ar ôl tan mewn eiddo yn Llandudno.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r eiddo ar Ffordd y Brenin am 10:59 fore Gwener wedi adroddiad o dân.
Roedd dwy injan dân o Llandudno dwy injan dân o Fae Colwyn yn bresennol ynghyd â diffoddwyr tân sy'n cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Paul Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf i'r teulu a'r ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd yma.
"Nid yw achos y tân wedi'i gadarnhau eto ac mae bellach yn destun ymchwiliad ar y cyd."