Newyddion S4C

Yr Arlywydd Biden yn 'hen ddyn gyda chof gwael' medd ymchwiliad

09/02/2024
Biden.png

Mae'r Arlywydd Biden wedi beirniadu ymchwiliad a ddaeth i'r casgliad ei fod wedi cam-drin dogfennau cyfrinachol a'i fod yn cael trafferthion i gofio digwyddiadau allweddol yn ei fywyd. 

Daeth Cwnsler Arbennig yr Adran Gyfiawnder Robert Hur i'r casgliad fod Mr Biden wedi cadw'r dogfennau yn ymwneud â'r polisi tramor a milwrol yn Affghanistan ar ôl gwasanaethu fel dirprwy arlywydd. 

Mae'r adroddiad 345 tudalen yn dweud fod gan gof yr arlywydd "gyfyngiadau sylweddol". 

Fe wnaeth Mr Hur gyfweld Mr Biden, 81, am bum awr fel rhan o'r ymchwiliad. 

Dywedodd y cwnsler arbennig nad oedd Mr Biden yn gallu cofio pryd yr oedd yn ddirprwy arlywydd (o 2009-2017) na "hyd yn oed ychydig o flynyddoedd yn ôl, pan y gwnaeth ei fab Beau farw" (2015).

Mewn cynhadledd i'r wasg nos Iau, fe wnaeth Mr Biden feirniadu'r sylwadau oedd yn cwestiynu ei iechyd yn chwyrn. 

"A dweud y gwir, pan ofynwyd y cwestiwn hwnnw, meddyliais i fy hun nad oedd yn fusnes iddyn nhw o gwbl," meddai.

"Dwi ddim angen unrhyw un i fy atgoffa pryd fu farw Beau."

Ychwanegodd ei fod yn "brysur iawn...yng nghanol delio ag argyfwng rhyngwladol" pan gafodd ei gyfweld gan y cwnsler arbennig o 8-9 Hydref y llynedd, pan ddechreuodd rhyfel Israel-Hamas.

Daeth y cwnsler arbennig i'r casgliad y byddai'n anodd dedfrydu'r arlywydd am drin y dogfennau yn amhriodol oherwydd "mewn achos llys, byddai Mr Biden yn debygol o gyflwyno ei hun i'r rheithgor, fel y gwnaeth yn ein cyfweliad, fel hen ddyn gyda chof gwael".

Dywedodd Mr Biden wrth ymateb i gasgliad yr adroddiad: "Dwi yn hen. Ond dwi'n gwybod yn iawn beth dwi'n ei wneud. Fe wnes i roi y wlad hon yn ôl ar ei thraed."

Ychwanegodd fod ei gof yn "iawn" a "heb waethygu" yn ystod ei gyfnod fel arlywydd.

Pan ofynwyd iddo os y gwnaeth gymryd cyfrifoldeb am gadw dogfennau cyfrinachol yn ei gartref, fe wnaeth Mr Biden roi'r bai ar ei staff.

Cafodd y dogfennau eu darganfod yng nghartref Mr Biden yn Wilmington, Delaware, a'i gyn swyddfa breifat o 2022-23.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.