Newyddion S4C

Dydd Miwsig Cymru: Y Reu yn ail-ffurfio mewn rhaglen arbennig

09/02/2024
Y Reu

Bydd y band Y Reu yn ail-ffurfio ar gyfer rhaglen arbennig  i ddathlu Ddydd Miwsig Cymru.

Wedi seibiant o bum mlynedd, bydd aelodau'r band yn dod at ei gilydd mewn pennod arbennig o'r gyfres "Curadur" ar S4C nos Wener.

Yn y rhaglen, mi fydd lleisydd y band, Iwan Fôn, sydd hefyd yn aelod o Kim Hon, yn dychwelyd i’r stiwdio i recordio cân gyda Y Reu.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Iwan fod y band yn gobeithio parhau i recordio a pherfformio yn ystod 2024.

“Fel rhan o’r rhaglen, ges i ddewis be i bortreadu o fy myd cerddorol i, a’r dewisiadau amlwg oedd Kim Hon a'r Reu, achos mi o’n i arfer bod yn y band yna hefyd. 

"Oedd y pump ohonon ni 'di bod yn meddwl dod nôl at ein gilydd ers blynyddoedd ag oni’n teimlo gan fy mod i wedi gael fy newis i neud y rhaglen, ei fod yn amser perffaith i gael y band yn ôl at ei gilydd. 

“Yn y rhaglen, da ni’n mynd i stiwdio Sain i recordio cân newydd a wedyn y bwriad ydi bod ni’n parhau i recordio dipyn bach mwy a gweld sut mae o’n mynd. A wedyn gobeithio gigio dipyn bach dros yr haf a gweld be ddaw ohoni.”

Trefnu gigs

Yn ogystal a pherfformio, mae Iwan yn trefnu gigs yn ei filltir sgwâr.

Yn rhan o grŵp Tin Sardines, sydd yn trefnu gigs yng Nghaernarfon, roedd Iwan a saith o’i gyd-gerddorion yn gyfrifol am ddenu 30 o artistiad i berfformio mewn 19 o gyngherddau miwsig a chomedi yn ystod 2023.

“Dwi’n meddwl bod na ddigon o gigs, ond yn bersonol, doni’m yn meddwl bod na ddigon yn mynd ymlaen yn Gaernarfon ar y pryd. So yn hytrach na cwyno am y peth, oeddan ni’n meddwl nawn ni fynd ati i drefnu gigs. 

“Naethon ni roi 19 gig ymlaen yng Nghaernarfon blwyddyn dwytha, a’r gobaith ydi yn 2024 i gael hyd yn oed mwy o gigs, a rhoi nhw mewn venues ychydig bach yn fwy. Y gobaith ydi tyfu’r brand yna ychydig bach yn fwy dros y flwyddyn yma hefyd.

Image
Kim Hon
Kim Hon

“Mae na lot yn digwydd yng Nghaerdydd, ond dwi’n siwr bod na dipyn o ardaloedd yng Nghymru ‘sa’n gallu neud efo mwy o gigs. Does na ddim llawer o gigs yn digwydd yn ardal Conwy, dim llawer yn digwydd yn Sir Fôn, ond Caernarfon sy’n lleol i fi, so fana oni’n meddwl swni’n canolbwyntio arno fo. 

“Os na bod na gerddorion fatha ni’n mynd i drefnu’r gigs, dydyn nhw byth yn mynd i ddigwydd. So does na’m point cwyno bod na ddim digon o gigs, mae’n rhaid mynd allan a trefnu nhw. 

“Y gobaith ydi i neud mwy a trio gael mwy o artistiaid i ddod i Gaernarfon i chwarae. Da ni wedi bod yn defnyddio mwy o artistiad lleol yn 2023, a mae’n bwysig i neud yn siwr bo nhw’n cael gigs yn eu hardal nhw. 

“Ond dani’n gobeithio yn 2024 yn ogystal a rhoi gigs i artistiad lleol, bo ni’n gallu persawdio bandiau mwy i ddod i chwarae. Mae Adwaith yn dod mis nesa, so da ni’n edrych ymlaen am hynny. A mae ganddon ni gig efo Gwilym a Fleur de Lys diwedd mis yma hefyd yn yr Hen Lys.”

Y sîn Gymraeg ‘yr iachaf’ ers blynyddoedd

A does dim amheuaeth gan Iwan ynglŷn â sut siap sydd ar y sîn gerddorol Gymreig ar hyn o bryd.

“Un peth dduda i amdan miwsig Cymraeg ydi, mae o mewn lle ffantastic ar hyn o bryd,” ychwanegodd

“Mae gin ti fandiau ac artisiaid mor exciting yn dod allan a dwi’n meddwl fod lot o fandiau ac artistiaid yng Nghymru efo sŵn  unigryw. 

“Da ni efo sŵn unigryw yng Nghymru, da ni ddim just yn dilyn y trends ‘ma ti’n glywed yn dod o Lloegr neu America. Mae gin ti artistiaid sy’n unigryw iawn. Dwi’n meddwl bod y sîn yr iachaf mae  'di bod ers blynyddoedd. 

“O’r rhan faint o bobl o wahanol gefndiroedd sy’n rhan o’r sîn erbyn rwan hefyd, mae o’n fwy inclusive rwan na mae o di bod erioed. 

“Mae ‘na gymaint o bwyslais 'di bod ar trio annog merched i neud mwy o gerddoriaeth, sydd yn brilliant, ac mae o’n amlwg wedi gweithio, achos mae na llwyth o artistiaid benywaidd yn dod drwadd rwan ac yn cael mwy o sylw nag erioed, sydd yn rwbath rili positif."

Gwyliwch Curadur: Iwan Fôn am 21.55 ar S4C nos Wener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.