Newyddion S4C

Cyngor Môn yn trafod cau ysgol leia'r sir

08/02/2024
ysgol carreglefn

Mae Cyngor Ynys Môn yn ystyried cynlluniau i gau ysgol leia'r sir  yn ddiweddarach eleni.

Dim ond 9 o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn, a hi ydi'r ysgol gynradd sydd a'r costau uchaf fesul disgybl yng Nghymru gyfan.

Dywedodd Marc Berw Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Môn: “Gallaf gadarnhau y bydd cynnig sy’n argymell cau Ysgol Carreglefn yn dod gerbron ein Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac yna’r Pwyllgor Gwaith.”

 “Bellach, dim ond naw o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn a hynny’n gyfystyr â 80% o leoedd gwag. Mae pedwar o’r disgyblion yma ym mlwyddyn chwech ac mae’r ysgol ei hun yn rhagweld y bydd pump neu lai o ddisgyblion yn mynychu o fis Medi 2024 ymlaen.

 Ychwanegodd, “Carreglefn hefyd sydd â’r gost uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Cymru ar £17,200 y disgybl, sydd dair gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cost y pen ar gyfer gweddill Ynys Môn.

 “Disgwylir i’r cynnig gael effaith gadarnhaol ar safonau addysg ac, os bydd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno cau, byddai rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgol. Byddai hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â holl ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru.”  

“Os gweithredir hyn, rhagwelir y byddai Ysgol Carreglefn yn cau ym mis Awst 2024, gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell ym Medi 2024.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.