Newyddion S4C

Covid-19: Trafod cynnwys Llywodraeth Cymru mewn adolygiad o'r defnydd o WhatsApp

08/02/2024
Y Senedd

Gallai adolygiad o’r defnydd o WhatsApp  o fewn llywodraeth yn yr Alban gael ei ehangu i gynnwys Llywodraeth Cymru,  a llywodraethau eraill y DU.

Mae Dirprwy Brif Weinidog  yr Alban Shona Robison wedi ysgrifennu at lywodraethau eraill y DU i'w hannog i fod yn rhan o'r adolygiad.

Cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod uwch swyddogion Llywodraeth yr Alban – gan gynnwys y cyn-brif weinidog Nicola Sturgeon – wedi dileu eu negeseuon WhatsApp o adeg pandemig Covid-19.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Alban, Alister Jack wrth Ymchwiliad Covid-19 y DU ei fod yntau hefyd wedi dileu ei negeseuon, gan egluro ei fod wedi dileu pob neges WhatsApp i ryddhau lle ar ei ffôn symudol oedd ganddo ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gwnaethom benderfyniad cynnar i drosglwyddo’r holl ddeunydd y gofynnwyd amdano gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19. 

"Ni chaniateir i ffonau Llywodraeth Cymru gael mynediad i WhatsApp, sydd wedi bod yn ei le ers cyn y pandemig.”

'Cydweithredu'

Mae Prif Weinidog yr Alban Hamza Yousaf wedi beirniadu Llywodraeth y DU oherwydd eu methiant i drosglwyddo negeseuon WhatsApp i'r ymchwiliad, wrth iddo ddatgelu y gallai'r adolygiad gael ei ehangu.

Addawodd hefyd y byddai ei lywodraeth ef yn “cydweithredu’n llawn” â gwaith gan Gomisiynydd Gwybodaeth yr Alban David Hamilton, a lansiodd ei ymchwiliad ei hun i negeseuon WhatsApp a negeseuon anffurfiol yn ddiweddar.

Daw sylwadau Yousaf yn sgil beirniadaeth o Lywodraeth yr Alban wedi iddi ddod yn amlwg fod ffigyrau allweddol wedi dileu negeseuon, gan gynnwys Ms Sturgeon, y cyn ddirprwy brif weinidog John Swinney a’r cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol yr Athro Jason Leitch.

Sturgeon

Wrth roi ei thystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU dywedodd Ms Sturgeon nad oedd hi wedi cadw negeseuon ar ei ffôn am resymau diogelwch ers 2007 - y flwyddyn y daeth yr SNP i rym yn Holyrood.

Mynnodd fod hyn yn unol â pholisi Llywodraeth yr Alban, gyda’r pwyntiau allweddol o’r negeseuon a roddwyd ar gofnod swyddogol y Llywodraeth.

Fodd bynnag, mae gweinidogion eraill, gan gynnwys Mr Yousaf, wedi gallu rhoi negeseuon i'r ymchwiliad.

Ym mis Tachwedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford  y byddai ei lywodraeth yn rhyddhau pob deunydd posib i'r ymchwiliad, ond na allai fod yn sicr nad oedd negeseuon Whatsapp  gan rai pobl o'r cyfnod wedi eu dileu.

Ychwanegodd nad oedd ei lywodraeth wedi defnyddio "negeseuon anffurfiol" i wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.