Newyddion S4C

Cip ar gemau nos Wener yn y Cymru Premier JD

Sgorio 09/02/2024
Penybont v Bala

Mae ail ran y tymor wedi dechrau a gyda naw gêm yn weddill mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.

Mae’r Seintiau Newydd 17 pwynt yn glir ar y copa ac yn edrych yn bur debygol o sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn olynol a chodi’r tlws am yr 16eg tro yn eu hanes.

Wedi hynny, mae Cei Connah 10 pwynt yn glir o’r Bala yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop.

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.

Y Chwech Uchaf

Y Bala (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45

Byddai pwynt i’r Seintiau Newydd nos Wener yn sicrhau eu lle yn y ddau uchaf, ac felly yn cadarnhau eu lle’n Ewrop am y 25ain tymor yn olynol.

Sicrhaodd y Seintiau eu 27ain buddugoliaeth yn olynol drwy drechu’r Drenewydd nos Fawrth (3-0), ond cafwyd penderfyniad gan ‘Guinness World Records’ nad ydi’r rhediad yn gymwys fel record byd gan ei fod yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn East Fife ym mis Hydref.

Ers eu colled diwethaf yn erbyn Swift Hesperange ar Awst y 1af, mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o 35 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth gan dorri 17 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y Cymru Premier JD.

Yn ogystal â sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her yr Alban ar ôl curo Falkirk y penwythnos diwethaf, mae’r Seintiau eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr, ac wedi camu ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan Cymru.

Bydd cewri Croesoswallt yn benderfynol o fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair am y tro cyntaf erioed, ac i guro eu rhediad blaenorol o 39 gêm gystadleuol heb golli rhwng Awst 2014 ac Ebrill 2015.

Enilodd Y Seintiau Newydd y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond ennill y ‘quadruple’ am y tro cyntaf yw’r nod eleni.

Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u 17 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 12, cyfartal 5), a dyw tîm Colin Caton heb sgorio yn eu pedair gêm ddiwethaf yn eu herbyn.

Ond Y Bala yw’r tîm diwethaf i gymryd pwyntiau oddi ar y pencampwyr gyda gêm ddi-sgôr ar Faes Tegid ym mis Medi yn ystod rhan gynta’r tymor, felly mi fyddan nhw’n ysu am ganlyniad tebyg i ddod a rhediad rhagorol y Seintiau i ben.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ➖✅✅✅❌

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Y Chwech Isaf

Hwlffordd (8fed) v Pontypridd (11eg) | Nos Wener – 19:45

Mae Hwlffordd wedi colli eu lle ar frig y Chwech Isaf yn dilyn eu colled annisgwyl yn erbyn Aberystwyth nos Wener diwethaf.

Hon oedd eu colled gyntaf oddi cartref ers mis Hydref a dyw’r Adar Gleision ond wedi ennill un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.

Er hynny, gwahaniaeth goliau’n unig sydd rhwng Hwlffordd a Pen-y-bont yn y ras am y 7fed safle a lle yn y gemau ail gyfle.

Mae Pontypridd wedi dringo oddi ar waelod y tabl ar ôl buddugoliaeth swmpus yn erbyn Y Barri yng ngêm gyntaf Gavin Allen wrth y llyw.

Pontypridd sydd â’r record ymosodol waethaf yn y gynghrair (16 gôl mewn 23 gêm), ond mae chwech o’r rheiny wedi eu sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf felly mae’n ymddangos bod y garfan wedi dod o hyd i’w esgidiau sgorio o’r diwedd.

Does dim problem ben arall y cae gan mae Pontypridd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y Chwech Isaf, a dim ond Connor Roberts (12) o’r Seintiau Newydd sydd wedi cadw mwy o lechi glân na golwr Pontypridd, George Ratcliffe (9) yn y gynghrair.

Roedd Hwlffordd yn un o’r tri chlwb fethodd a sgorio yn eu dwy gêm yn erbyn Pontypridd yn rhan gynta’r tymor (gyda’r Bala ac Aberystwyth).

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ͏❌❌➖✅❌

Pontypridd: ✅✅❌✅❌

Aberystwyth (10fed) v Bae Colwyn (12fed) | Nos Wener – 20:00

Mae hon yn gêm enfawr i Fae Colwyn ar waelod y tabl gan y byddai colled ar Goedlan y Parc yn gadael y Gwylanod saith o bwyntiau o dan diogelwch y 10fed safle.

Byddai triphwynt i Fae Colwyn yn eu gadael ond un pwynt y tu ôl i Aberystwyth, ond haws dweud na gwneud i’r tîm sy’n dioddef o ddiffyg hyder ar ôl colli saith gêm gynghrair yn olynol.

Sicrhaodd Aberystwyth eu pumed buddugoliaeth yn y gynghrair y penwythnos diwethaf,a’u pedwaredd buddugoliaeth o un gôl i ddim (ennill 0-2 vs Pen-y-bont yn yr unig fuddugoliaeth arall).

Bae Colwyn yw un o’r clybiau i golli 1-0 yn erbyn Aberystwyth y tymor hwn, ac hynny ym mis Ionawr gyda Liam Walsh yn sgorio’n gynnar yn yr ail hanner ar Goedlan y Parcwedi i Mark Cadwallader dderbyn cerdyn coch i Aber yn yr hanner cyntaf.

Ond mae’r Gwyrdd a’r Duon yn un o ddim ond tri o glybiau i golli yn erbyn Bae Colwyn yn yn y gynghrair y tymor hwn hefyd (gyda Pen-y-bont a Pontypridd) gan i dim Steve Evans guro Aber o 3-1 ar Ffordd Llanelian ym mis Medi.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth: ͏✅❌✅➖❌

Bae Colwyn: ❌❌❌❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.