Awdurdod Parc Eryri'n pleidleisio o blaid ceisio denu prynwyr i Blas Tan y Bwlch
Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio o blaid ceisio denu prynwyr i Blas Tan y Bwlch yn y gobaith o sicrhau dyfodol y safle.
Mae aelodau’r Awdurdod wedi pleidleisio dros gadw’r safle ar agor am gyfnod o chwe mis, tra eu bod yn ceisio denu cynigion gan ddarpar brynwyr neu bartneriaid i redeg y safle yn yr hir dymor.
Daw hyn wedi pryderon na fydda’r Awdurdod yn gallu parhau i redeg y ganolfan ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog, sydd wedi cynnig amrywiaeth o gyrsiau preswyl ers bron i 50 mlynedd.
Fe wnaeth swyddogion yr Awdurdod ychwanegu fod angen penodi rhagor o staff, gan gynnwys rheolwr dros dro ar y tŷ, er mwyn ei wneud yn “ddiogel”.
Yn ôl swyddogion, nid yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn eu caniatáu i weithredu’r busnes fel ag y mae, gan ddweud bod y "pandemig, chwyddiant a llymder" wedi effeithio ar y ganolfan yn y blynyddoedd diweddar.
Cafodd cyfarfod o aelodau’r Awdurdod ei gynnal ddydd Mercher i drafod dyfodol y ganolfan ac i bleidleisio ar becyn o argymhellion oedd yn yr adroddiad.
Ymysg y saith o argymhellion, roedd yr awdurdod wedi awgrymu gosod Plas Tan Y Bwlch ar y farchnad agored i ddarpar brynwyr, gan hefyd wahodd diddordeb gan bartneriaid posibl ar gyfer rheoli neu ddatblygu’r safle.
Penderfynodd aelodau’r Awdurdod yn unfrydol i dderbyn yr argymhellion ac ail-ymgynnull fis Medi i ystyried unrhyw gynigion sy’n cael eu gwneud yn y cyfamser.
Wedi’r bleidlais, dywedodd Tim Jones, a gafodd ei benodi’n Gadeirydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn yr un cyfarfod: “Diolch yn fawr iawn. Penderfyniad dewr ond pwysig iawn dwi’n meddwl i ddyfodol y Parc."
'Cyfle gorau'
Bydd yr Awdurdod nawr yn cadw’r busnes ar y farchnad am gyfnod o chwe mis, cyn y bydd yn gorfod ystyried ei gau, er eu bod hefyd wedi mynegi pryderon dros ddiogelwch yn sgil prinder staff.
Os bydd y safle yn cau, bydd yn rhaid i'r Awdurdod barhau i dalu costau o £76,000 y flwyddyn i'w gynnal.
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr yr Awdurdod, fod dau ddarpar bartner eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rheolaeth o Blas Tan y Bwlch, un o’r sector breifat ac un o’r sector wirfoddol.
“Mi ydach chi fel aelodau a ninnau fel swyddogion eisiau rhoi’r cyfle gorau i Blas Tan y Bwlch a ‘da ni ‘di cytuno rhoi ffenest benodol ar gyfer trio cael partner neu werthiant, cyn gorfod ystyried ei chau.
“Dwi wedi gosod yn y papur be ydi’r goblygiadau cau. Y peth gwaethaf allwch chi wneud ydi just cau drysau, mae’n rhaid ei gadw’n glyd, ei gadw’n sych. Y costau yna ydi £76,000.
“Wrth gwrs os ydych chi’n cymeradwyo i ni fynd allan yn agored, mi fyddan ni’n gallu agor y rhwyd yn dipyn ehangach ar bartneriaethau achos dwi’n gwybod na dyna’r ffordd ‘da chi isho mynd.”
Wrth drafod staffio, dywedodd: “Wrth i ni ddod at y cyfnod mwy prysur, dwi yn poeni ein bod ni ddim efo digon o staff i redeg y gwasanaeth, ond hefyd i redeg y plas fel lle diogel. Mae’n rhaid i chi gymryd hwnna o ddifri, da ni ddim isho rhedeg rhywbeth sydd ddim yn ddiogel i fod yno.”
'Risg'
Ychwanegodd Tim Jones: “Mae 'na risg o’r rhan staffio, os ydan ni’n disgyn i lefel staffio da ni’n weld sy’n saff i redeg, ella bydd rhaid i ni gymryd y cam i gau.
“Os di hynny’n digwydd, ac yn wir gobeithio ‘di o ddim oherwydd mi fydd hwnna’n anodd iawn.
"Mae hwn yn rhywbeth pwysig iawn i’r awdurdod. Mae o’n gam da ni ddim yn cymryd yn ysgafn. Yn bersonol, dwi’n drist, dwi di gael amseroedd arbennig o dda yn y plas dros bron i ddeugain mlynedd, mewn gwahanol bethau.
“Di hwn ddim yn rhywbeth da ni’n cymryd yn ysgafn ond da chi di gweld sut mae’r sefyllfa ariannol a sut mae’n eistedd efo’r model busnes.”