Newyddion S4C

Ymgyrchwyr yn cefnogi achos cyfreithiol i atal llygredd yn Afon Gwy

protest Gwy

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi casglu tu allan i’r Ganolfan Gyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd i gefnogi achos cyfreithiol sydd yn ceisio atal dirywiad pellach i’r Afon Gwy.

Mae River Action yn honni fod Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) y DU wedi methu amddiffyn Ardal Gadwraeth Arbennig yr Afon Gwy rhag lefelau mawr o lygredd amaethyddol, sydd wedi achosi dirywiad ecolegol yr afon.

Mae'r achos cyfreithiol yn berthnasol i DEFRA, yn hytrach na Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am gyflwr yr afon o fewn Cymru.

Mae'r afon Gwy yn codi yng Nghanolbarth Cymru, ac yn llifo am 150 milltir, yn rhannol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, cyn ymuno â'r Hafren.

Dywedodd Charles Watson, Sylfaenydd a Chadeirydd River Action:

“Mae marwolaeth yr Afon Gwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi datblygu fel damwain car araf.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cwrs dŵr bendigedig yma, sydd yn aml yn cael ei ethol fel yr afon mwyaf poblogaidd yn y wlad, wedi’i ymosod arni gan ddilyw o lygredd amaethyddol.”

“Un o’r brif achosion yw’r twf diweddar mewn cynhyrchu dofednod yn nalgylch yr Afon Gwy, sy’n cyflenwi miliynau o gywion ieir yr wythnos i Tesco, prif archfarchnad y wlad...Mae miloedd o dunelli o garthion yr adar hyn yn cael eu gollwng ar draws caeau Dyffryn Gwy a mannau eraill.”

Mae’r elusen gwrth-llygredd yn honni os byddai’r gyfraith i atal y trwytho yma mewn maetholion wedi ei weithredu’n briodol, byddai’r llygredd hyn wedi ei atal.

Maen nhw hefyd yn gobeithio bydd yr her gyfreithiol yma yn cynnig cyfle ar frys i Asiantaeth yr Amgylchedd weithredu’r cyfreithiau sy’n bodoli i amddiffyn afonydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.