Yr heddlu'n ymchwilio i ddwy farwolaeth 'anesboniadwy' ym Mhort Talbot
06/02/2024
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaethau "sydyn ac anesboniadwy" ym Mhort Talbot.
Cafodd cyrff dyn 40 oed a menyw 34 oed eu darganfod mewn cyfeiriad ar Rodfa Rhodes ddydd Llun.
Dywedodd y llu bod swyddogion wedi mynd i'r eiddo am 09:00 yn dilyn galwad am bryder lles.
Ychwanegodd y llu bod swyddogion wedi dod o hyd i'r cyrff wedi iddynt gael mynediad i'r eiddo.
Mae timau fforensig wedi bod yn gweithio yn y lleoliad ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y darganfyddiad.
Llun: Google