Ail-ddarlledu gêm rygbi olaf Barry John dros hanner canrif yn ôl
Bydd gêm rygbi olaf Barry John – sef gêm elusennol i ddathlu hanner can mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru - yn cael ei darlledu ar S4C nos Fercher.
Daeth teyrngedau o’r byd rygbi a thu hwnt yn dilyn y newyddion am farwolaeth y cyn-faswr chwedlonol ddydd Sul, yn 79 oed.
Mewn teyrnged iddo, fe fydd S4C yn ail-ddangos gêm elusennol nôl ar ddechrau'r 70au, rhwng dau dîm o sêr rhyngwladol dan arweinad dau Gymro, timau XV Carwyn James v XV Barry John, am 21.40 nos Fercher.
Fe lwyddodd y gêm i godi £15,000 tuag at yr Urdd, ond mae 26 Ebrill 1972 yn fwy nodedig yn y llyfrau hanes, gan mai dyma oedd y tro olaf i Barry John chwarae mewn gêm rygbi.
Fis yn ddiweddarch, fe gyhoeddodd ei fod yn ymddeol o’r gamp ar unwaith, ac yntau’n 27 oed - er mawr syndod a thristwch o fewn y byd rygbi.
Yn ei gêm olaf, roedd y maswr yn gapten ar dîm o sêr Cymru, yn erbyn tîm o fawrion o wledydd eraill Prydain ac Iwerddon, dan arweiniad ei gyfaill o Gefneithin, Carwyn James.
Roedd 22 o’r chwaraewyr ar y maes yn aelodau o garfan y Llewod a lwyddodd i ennill draw yn Seland Newydd yn Haf 1971, gan gynnwys y capten, John Dawes, Gareth Edwards, J.P.R Williams, David Duckham, Peter Dixon, a Gordon Brown.
Cafodd y gêm ei threfnu yng Nghaerdydd i gefnogi Jiwbilî hanner can mlynedd yr Urdd ac i ddathlu taith lwyddiannus y Llewod y flwyddyn flaenorol.
Cafodd 35,000 o docynnau eu gwerthu ar gyfer y gêm, gan godi £15,000 dros yr Urdd. Fe ddaeth yr achlysur â sylw i'r mudiad ieuenctid yn y wasg a'r cyfryngau, gyda rhaglen y BBC, Sportsnight with Coleman, yn dangos uchafbwyntiau'r gêm.
'Gêm ryfeddol'
Dywedodd John Evans, ysgrifennydd a threfnydd ar bwyllgor y digwyddiad: "Roedd rhaid cysylltu efo pob un o'r chwaraewyr, ysgrifennu atyn nhw, trefnu popeth. Chwaraewyr o Loegr, Yr Alban, Iwerddon ac wrth gwrs Cymru.
"Roedd David Duckham yn dod i lawr o Salford, er enghraifft. Gêm yr amaturiaid oedd e'r adeg hynny, felly dim ond treuliau roedd pawb yn gofyn amdano.
"Ac ar ddiwedd, mi gawsom y cwbl lot ynghyd yng Nghaerdydd, ar noson fwyn o Ebrill, ac mae'r dyddiad yn fy mhen i o hyd ac o hyd."
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Ar 26 Ebrill 1972, daeth sêr disgleiriaf timau rygbi Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon at ei gilydd yng Nghaerdydd i chwarae mewn gêm elusennol – y Barry John XV v. y Carwyn James XV – i gefnogi hanner can mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru.
"Tra bod gwirfoddolwyr wrthi’n brysur yn trefnu’r gêm, disgynnodd y cyfrifoldeb o ddenu chwaraewyr ar ysgwyddau’r ddau ddyn o Gefneithin, a’r ddau yn gyn-aelodau o’r Urdd.
“Bu i Carwyn James a Barry John godi tîm o gewri yr un i wynebu ei gilydd. Roedd tîm Barry John i gynnwys yn bennaf aelodau o dîm rygbi cenedlaethol Cymru a gipiodd Coron Driphlyg a’r Bencampwriaeth y flwyddyn flaenorol – a’r rhan fwyaf ohonynt yn dal i’w hystyried eu hunain yn aelodau o’r Urdd!
“Ychydig a wyddai mai dyna fyddai gêm olaf Barry John cyn iddo ymddeol o chwarae rygbi, ac mai ei gais munud olaf yng ngêm yr Urdd fyddai ei gais olaf am byth. Dyma beth oedd gêm ryfeddol i orffen ei yrfa.
"Roedd y gêm honno yn un bwysig am fwy nag un rheswm, ac mae ein diolch yn fawr i Barry John am ei gyfraniad hanesyddol i’r Urdd.”