12 mlynedd o garchar i ddyn o Abertawe am dreisio
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd am dreisio.
Plediodd Kalvin Davies, 33 oed, o New Road, Treboeth, yn euog i ymosodiadau domestig cyn i reithgor ei gael yn euog o dreisio.
Ymosododd Davies ar y dioddefwr trwy ei tharo dro ar ôl tro a cheisio ei thagu yn ystod digwyddiad yn ei gartref.
Yna aeth ymlaen i dreisio'r dioddefwr. Yn ddiweddarach, fe wnaeth Davies gloi'r dioddefwr yn ei dŷ, gyda’r dioddefwr ond yn llwyddo i ddianc tra’r oedd yn cysgu.
Bydd Kalvin Davies ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sian Evans, yr Ymchwilydd ar yr achos: “Oherwydd dewrder y dioddefwr, bydd Kalvin Davies, unigolyn hynod beryglus, bellach dan glo am gyfnod sylweddol o amser.
“Rydym yn falch o weld y dioddefwr yn derbyn cyfiawnder am y dioddefaint dirdynnol y mae wedi mynd drwyddo."
Llun: Heddlu De Cymru