Newyddion S4C

'Un antur olaf': Plant yn anfon cerrig lliwgar i bedwar ban byd er cof am eu tad

06/02/2024
Carreg Griff Barnes

Mae dau blentyn wedi dechrau menter i anfon cerrig wedi’u paentio o amgylch y byd er cof am eu tad a fu farw’n “annisgwyl” er mwyn rhoi “un antur olaf” iddo.

Dechreuodd Izzy Barnes, 18, a’i brawd 15 oed Nathan Barnes o Portsmouth, 'Griff's Last Adventure' er cof am Griff Barnes.

Bu farw Mr Banes yn 54 oed o ymlediad aortig ym mis Gorffennaf 2023.

Mae’r cerrig wedi’u darganfod gan gannoedd o bobl mewn nifer o wledydd a dinasoedd ledled y byd gan gynnwys Yemen, Wcráin, Efrog Newydd, Kenya a Costa Rica. 

Image
Carreg Griff Barnes
Un o'r cerrig ar graig ger Las Vegas. Llun: 
Shona Rust/PA

Pan fydd person yn dod o hyd i un o'r cerrig, y syniad yw ei fod yn cael ei symud i leoliad newydd a gadael i berson arall ei darganfod.

Mae’r cerrig wedi’u paentio mewn amrywiaeth o liwiau ac yn cynnwys neges yn cyfeirio’r rhai sy’n dod o hyd iddynt at dudalen Facebook lle mae gwahoddiad i bostio llun o’r garreg a gadael nodyn i’r grŵp.

'Cofio'

Dywedodd Miss Barnes wrth asiantaeth newyddion PA bod y dudalen wedi dod â “chysur” i’w theulu ar adeg o alar ac esboniodd sut y gwnaethon nhw feddwl am y syniad ar gyfer 'Griff's Last Adventure' yn y dyddiau ar ôl marwolaeth ei thad.

“Roedden ni newydd feddwl, gadewch i ni roi un antur olaf iddo i’r holl wledydd na allai fynd iddyn nhw,” meddai.

“Fe aethon ni ar wyliau i Wlad yr Haf gydag ochr fy nhad o’r teulu ac roedden ni’n ddwfn iawn yn y cyfnodau galaru bryd hynny.

“Fe wnaethon ni feddwl, beth allwn ni ei wneud i dynnu ein meddyliau oddi arno ond hefyd i'w gofio.

“Roedd wrth ei fodd yn teithio, byddai’n mynd i unrhyw le, roedd yn berson anturus iawn.”

Dywedodd Miss Barnes bod mwyafrif y cerrig yn dod o draethau lleol yn y DU, ac y bydd y teulu'n eu paentio a'u gorchuddio mewn sglein sy'n dal dŵr i sicrhau eu bod yn gwrthsefyll tywydd gwahanol.

Image
Carreg Griff Barnes
Dyma'r neges sydd ar gefn y cerrig mae Izzy a Nathan yn eu dylunio. Llun: 
Izzy Barnes/PA 

“Mae rhai pobl wedi ymuno a gofyn am garreg ond maen nhw’n byw mewn gwlad wahanol felly rydyn ni wedi rhoi’r cyfle i bobl beintio rhai eu hunain oherwydd rydyn ni eisiau i gymaint o gerrig ag y gallwn ni fod allan yna,” meddai.

“Roedden ni jyst yn meddwl mai teulu, ffrindiau a phobl oedd yn agos ato fe ond fe ddechreuodd dyfu ac fe fydden ni’n cael llawer o negeseuon bob dydd.

“Mae un carreg ar hyn o bryd ar fin mynd draw i’r Maldives, rydyn ni wedi cael un yn yr Arctig a hefyd Tokyo.

“Yn ddiweddar rydyn ni wedi cael rhywun sy’n gweithio i ffwrdd ar leoliad ar long danfor.”

Ychwanegodd fod y dudalen wedi rhoi cyfle i’r teulu rannu atgofion am Mr Barnes a dod yn agos at y rhai oedd yn ei adnabod. 

“Rydyn ni wedi gallu magu perthynas gyda’i ffrindiau sydd wedi ymuno â’r grŵp er cof amdano ac rydyn ni wedi dod yn agos atyn nhw,” meddai.

“Roedd ganddo’r galon fwyaf caredig ac ni allai fod wedi gwneud mwy i neb, ef oedd y tad gorau.

“Un o’r pethau rydyn ni wedi’i ddysgu yw byw bob dydd fel ei fod yn un olaf i chi gan nad ydych chi byth yn gwybod a oes gennych chi yfory.”

Prif lun: Sheila Scottow/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.