Newyddion S4C

Cymro'n ennill y swm mwyaf erioed ar y Loteri Cod Post

05/02/2024
Postcode lottery

Mae Cymro wedi ennill y swm mwyaf erioed ar y Loteri Cod Post, sef mwy na £1.2 miliwn. 

Enillodd Kevin Jones, 58, o Bowys, gyfanswm o £1,210,914 yn y gystadleuaeth fis Ionawr.

Fe wnaeth llys-tad Mr Jones, John Davies, 79, ei ffonio y diwrnod cyn iddo ennill gan ddweud y byddai'n ennill. 

"Dy dro di ydy hi," meddai. 

Dywedodd Mr Jones: "Ro'n i'n disgwyl derbyn £1,000 a phan wnaethon nhw dynnu'r tocyn allan o'r amlen ac fe wnes i weld y tri rhif cyntaf, wedyn y tri rhif arall, ro'n i mewn sioc llwyr.

"Dwi dal mewn sioc. Dwi wir ddim yn gwybod sut i deimlo."

 Enillodd Mr Jones ar ôl llwyddo i fod yr unig chwaraewr yng nghod-post llawn LD1 5HR. 

Prynodd dri thocyn, gyda phob un werth £403,638, a wnaeth ei alluogi i dreblu ei enillion. 

"Fe wnes i anghofio yn llwyr am y ddau docyn arall," meddai. 

Dywedodd ei fod yn bwriadu prynu car gyda'r pres yn ogystal â mynd ar fordaith o gwmpas y Caribî. 

Ychwanegodd nad oedd eisiau gwario "mwy o bres nag sydd rhaid", gan ddweud y byddai'r "pres yn newid ei fywyd ond na fydd yn ei newid fel person.

"Y rheswm i mi wneud y Loteri Cod Post oedd oherwydd nad ydych chi fyth yn meddwl eich bod chi'n mynd i ennill," meddai. 

"Y peth arall ydi eich bod chi'n gwybod fod y pres yn mynd i nifer o elusennau lleol a bach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.