Y digrifwr Rhod Gilbert i ymddangos ar 'Celebrity Bake Off SU2C'
Fe fydd Rhod Gilbert y digrifwr o Sir Gâr yn un o'r enwogion fydd yn mentro i'r babell fawr enwog ar gyfer y gyfres ddiweddaraf o Celebrity Bake Off ar Channel 4.
Mae'r rhaglen yn gweithio mewn cydweithrediad ag elusen SU2C - Stand Up To Cancer, ac fe gafodd Rhod ddiagnosis a thriniaeth am ganser ar ei wddf dros y blynyddoedd diwethaf.
Cyhoeddodd ym mis Gorffennaf 2022 ei fod yn cael triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, lle mae hefyd yn un o noddwyr y ganolfan.
Dywedodd ei fod wedi darganfod y tiwmor ar ei wddf ar ddiwrnod taith gerdded i godi arian ar gyfer y ganolfan, ac roedd y misoedd canlynol o driniaeth yn golygu nad oedd yn "ddigon da hyd yn oed i ddarllen neu wylio'r teledu."
Cafodd ei sgan clir cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd ac erbyn hyn mae'n paratoi ar gyfer mynd ar daith gomedi yn ddiweddarach y flwyddyn hon.
Ymysg yr enwogion fydd yn ymuno gyda'r Cymro ar y gyfres goginio boblogaidd mae Jodie Whittaker, Dermot O'Leary, Mel B, Danny Dyer, Gabby Logan a Greg James.
Lluniau: Channel 4