Newyddion S4C

Dim tystiolaeth DNA newydd mewn adolygiad i farwolaeth swyddog MI6 o Fôn

05/02/2024
Gareth Williams

Mae ymchwiliad fforensig newydd i farwolaeth yr asiant MI6, Gareth Williams yn 2010 wedi canfod nad oes tystiolaeth DNA pellach i awgrymu fod unrhyw unigolyn arall yn y fflat pan fu farw.

Cafodd Mr Williams, 31 oed, o’r Fali yn Ynys Môn, ei ganfod y farw mewn bag mewn fflat yn Pimlico, Llundain.

Yn 2012, fe wnaeth cwest ddod i’r casgliad fod ei farwolaeth yn “annaturiol” ac yn debygol o fod wedi cael ei effeithio gan “elfen droseddol”, ond fe ddaeth yr ymchwiliad i ben flwyddyn yn ddiweddarach.

Cyhoeddodd Heddlu’r Met fis Ionawr 2021 eu bod am gynnal adolygiad fforensig newydd o’r dystiolaeth DNA.

Bellach mae’r ymchwiliad hwnnw wedi canfod bod Mr Williams wedi bod ar ei ben ei hun yn ystod amser ei farwolaeth, gyda dim tystiolaeth DNA trydydd parti ychwanegol yn cael ei ganfod.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Neil John, yr uwch swyddog ymchwilio: “Ers 2010 mae’r Met wedi cynnal ymchwiliadau helaeth i farwolaeth Gareth.

“Fe wnaethon ni ddechrau adolygiad fforensig annibynnol ym mis Ionawr 2021 a chawsom y canlyniadau ym mis Tachwedd 2023.

“Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth DNA newydd ac ni chanfuwyd unrhyw destyn ymholi pellach.

"Rydym wedi hysbysu teulu Gareth o'r canlyniad ac mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw."

Ychwanegodd y Met y byddai'n adolygu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach, os bydd rhagor yn dod i'w sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.