Medal aur i Zoe Bäckstedt ym Mhencampwriaethau Seiclo Traws Dan 23 y Byd
Mae Zoe Bäckstedt wedi ennill Pencampwriaeth Seiclo Traws Dan 23 y Byd yn Tábor yng ngweriniaeth Tsiec.
Roedd hi 44 eiliad ar y blaen i Kristyna Zemanová y ffefryn lleol.
Daw hyn i ychwanegu at ei buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Seiclo Traws Dan 23 Ewrop yn Ffrainc ym mis Tachwedd.
Mae hyn yn ychwanegu eto at ei palmarès ar ôl iddi ennill medal aur yn y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Dan 23 Ewrop ym mis Medi.
Mae Zoe sy’n 19 oed o Bont-y-clun yn ferch i’r cyn seiclwr proffesiynol Magnus Bäckstedt, wnaeth ymgartrefi yng Nghymru ar ôl priodi Cymraes.
Roedd hefyd wedi ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Seiclo Traws y Byd ym mis Chwefror y llynedd.
Llun: X/British Cycling