Ymgyrchwyr yng Nghymru yn galw am gronfa sy’n cyfrannu at gost cadeiriau olwyn
![Newyddion S4C](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/newyddion-S4C_0.png)
Ymgyrchwyr yng Nghymru yn galw am gronfa sy’n cyfrannu at gost cadeiriau olwyn
'I gal y cader addas, bydde hwnna’n golygu cyment i fi.'
Mae Cymru ar ei hol hi o'i gymharu a Lloegr, yn ôl rhai sy'n defnyddio cadair olwyn.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae cael cadair olwyn anaddas yn gallu effeithio’n sylweddol ar safon bywyd a iechyd meddwl.
Mae'n nhw'n galw rwan am gynllun tebyg i un sy' dros y ffin, lle ma' cronfa sy'n cyfrannu at gadeiriau.