Newyddion S4C

Mam Brianna Ghey yn galw am wahardd y cyfryngau cymdeithasol ar ffonau pobl ifanc dan 16

04/02/2024
Brianna Ghey

Mae mam Brianna Ghey a gafodd ei llofruddio y llynedd wedi galw am wahardd y cyfryngau cymdeithasol ar ffonau pobl ifanc dan 16.

Dywedodd Esther Ghey wrth raglen Sunday with Laura Kuenssberg bod y rhyngrwyd fel “y gorllewin gwyllt” ac nad oedd yn “bosib” i rieni wybod beth oedd eu plant yn ei wneud ar-lein.

Cafodd Scarlett Jenkinson ac Eddie Ratcliffe, sydd yn 16 oed, eu dedfrydu am lofruddio Brianna Ghey yn Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener.

Roedd Scarlett Jenkinson, a laddodd Brianna, wedi gwylio fideos o drais ac artaith ar-lein.

Cynllwyniodd Jenkinson y llofruddiaeth gydag Eddie Ratcliffe gan ddefnyddio apiau negeseuo.

Dywedodd Esther Ghey sydd wedi lansio deiseb yn galw am y newidiadau bod angen i gwmnïau hefyd dynnu sylw rhieni os oedd plant yn chwilio am ddeunydd amhriodol ar-lein.

“Hoffwn i weld deddf yn cael ei chyflwyno fel bod ffonau symudol ar gael sydd yn addas i rai dan 16 oed,” meddai.

"Felly os ydych chi dros 16, fe allwch chi gael ffôn oedolyn, ond wedyn o dan 16 oed, gallwch chi gael ffôn plant, sydd heb yr holl apiau cyfryngau cymdeithasol sydd allan yna nawr. 

“A hefyd i fod â meddalwedd sy'n cael ei lawrlwytho'n awtomatig ar ffôn y rhieni sy'n cysylltu â ffôn y plant, a all dynnu sylw at rai geiriau allweddol.

“Felly os yw plentyn yn chwilio am y math o eiriau roedd Scarlett ac Eddie yn chwilio amdanynt, bydd yn tynnu sylw ffôn y rhiant wedyn.”

'Amddiffynnol'

Ychwanegodd Esther Ghey ei bod yn credu "heb amheuaeth" na fyddai Brianna wedi cael ei lladd pe bai mesurau diogelu o'r fath eisoes yn eu lle.

Dywedodd "na fydden nhw wedi bod yn chwilio am hynny yn y lle cyntaf”. 

“Ac os oedden nhw wedi chwilio amdano, yna byddai'r rhieni'n gwybod ac yn gallu cael rhyw fath o help iddyn nhw."

Dywedodd Ms Ghey hefyd ei bod wedi cael trafferth cadw llygad ar yr hyn yr oedd Brianna yn ei weld ar-lein - a'i bod wedi bod yn chwilio am ddeunydd am anorecsia a hunan-niweidio.

Dywedodd fod ei merch yn "amddiffynnol iawn o’i ffôn - roedd yn achos llawer o ddadleuon”. 

“Galla i ddychmygu y bydd hyn yn wir hefyd yn y rhan fwyaf o gartrefi. Os na fyddai hi wedi gallu cael mynediad i'r safleoedd, ni fyddai hi wedi dioddef cymaint."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.