Newyddion S4C

Person wedi ei anafu mewn digwyddiad yn harbwr Rhyl

03/02/2024
RNLI/Harbwr Rhyl

Cafodd Gwylwyr y Glannau a gwirfoddolwyr lleol eu galw i ddigwyddiad yn harbwr Rhyl am tua 15:40 ddydd Gwener ar ôl i berson syrthio oddi ar reiliau wrth y fynedfa.

Roedd y gwasanaethau brys hefyd wedi mynychu ar ôl i’r oedolyn syrthio a glanio ar y creigiau gan ddioddef nifer o anafiadau.

Oherwydd bod yr oedolyn wedi dioddef anafiadau pen, dywedodd Gwylwyr y Glannau roedd rhaid cymryd gofal cyn iddynt fedru ei symud oddi ar y cregiau i’r promenâd.

Cafodd ei drosglwyddo i ofal swyddogion ambiwlans.

Llun: RNLI/Callum Robinson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.