Tata Steel yn dechrau ymgynghoriad 45 diwrnod ar ddiswyddo 2,400 o weithwyr
Tata Steel yn dechrau ymgynghoriad 45 diwrnod ar ddiswyddo 2,400 o weithwyr
Mae Tata Steel wedi cyhoeddi dechrau ymgynghoriad 45 diwrnod ar ailstrwythuro'r busnes a fydd yn arwain at golli miloedd o swyddi.
Mae'r cwmni wedi cadarnhau mai’r bwriad yw y bydd 2,400 o swyddi yn cael eu colli.
Bydd 1,929 o'r rheini ym Mhort Talbot, sy'n cyflogi 3,859 o bobl, medden nhw.
Mae'r cwmni'n bwriadu cau ffwrneisi chwyth a newid i ffordd fwy ecogyfeillgar o gynhyrchu dur.
Dywedodd llefarydd: “Heddiw rydym wedi dechrau’r broses o ymgynghori'n ffurfiol gyda’n partneriaid yn yr undebau llafur gyda’r bwriad o ailstrwythuro ein busnes yn y Deyrnas Unedig.
“Bydd y broses o rannu gwybodaeth ac ymgynghori yn parhau am o leiaf 45 diwrnod, ac rydym yn gobeithio cynnal deialog agored ac adeiladol ynghylch yr heriau y mae’r busnes yn eu hwynebu.
“Rydym wedi crynhoi faint o swyddi fydd yn cael eu heffeithio ym mhob un o’n safleoedd yn y DU, ac wedi rhannu’r rhain gyda Phwyllgor Dur y DU.
“Rydym yn deall fod hon yn sefyllfa gythryblus i bobl ac rydym yn benderfynol o roi pob cefnogaeth i’n gweithwyr, partneriaid contractwyr a chymunedau gyda chymorth ein Bwrdd Pontio.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Os yw Tata yn credu y byddwn yn ticio blychau ar fargen sydd eisoes wedi'i chwblhau, mae'n gamgymeriad mawr.
"Bydd Unite yn cyfarfod ag aelodau i drafod camau gweithredu posib."