Newyddion S4C

Dartiau: Chwaraewyr yr Uwch Gynghrair yn barod am y noson agoriadol yng Nghaerdydd

01/02/2024

Dartiau: Chwaraewyr yr Uwch Gynghrair yn barod am y noson agoriadol yng Nghaerdydd

Mae Luke Littler, Gerwyn Price a phencampwr y byd Luke Humphries ymysg y sêr a fydd yn ymddangos yn Uwch Gynghrair y Dartiau a fydd yn cychwyn yng Nghaerdydd nos Iau.

Dros gyfnod o 17 wythnos bydd yr wyth chwaraewr yn brwydro i ennill tlws yr Uwch Gynghrair, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chwarae yn Llundain.

Bydd y Cymro Gerwyn Price yn un o'r wyth fydd yn cystadlu, ac mae'n falch iawn o allu chwarae ym mhrifddinas ei famwlad.

"Dwi'n caru pan mae'r dartiau yng Nghaerdydd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fel dwi wedi dweud o'r blaen, d'yn ni ddim yn dod yma yn aml iawn, felly pan ydw i'n gwneud hynny dw i'n hoffi gwneud y mwyaf o'r cyfle. 

"Yn amlwg, ennillais i yma llynedd, felly gobeithio y galla' i ennill eto a mwynhau'r foment."

Image
Gerwyn Price
Bydd Gerwyn Price yn gobeithio ennill eto yng Nghaerdydd eleni. Llun: PDC

Roedd Luke Littler wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ar ddechrau'r mis, ac yntau yn 16 oed yn unig ar y pryd.

Mae wedi ennill y Bahrain Darts Masters ers hynny, ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf.

"Dwi erioed wedi bod i Gaerdydd o'r blaen," meddai.

"Dwi wastad wedi dweud unwaith rydw i yn y lleoliad mewn gwirionedd dyna pryd rydw i yn ffocysu ac yn barod.

"Dwi wir yn edrych ymlaen at y noson agoriadol yng Nghaerdydd a'r 16 wythnos sy'n dilyn."

'Torf gorau'

Luke Humphries wnaeth drechu Luke Littler yn rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd.

Wedi iddo orffen 2023 trwy ennill pedwar cystadleuaeth yn olynol, eleni yw'r tro cyntaf iddo gystadlu yn yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn edrych ymlaen at chwarae o flaen "un o'r torfeydd gorau yn y gystadleuaeth".

"Mae’n wych bod yma, ffordd berffaith i ddechrau’r Uwch Gynghrair yng Nghaerdydd," meddai.

"Dwi’n meddwl bod y rhan fwyaf o’r chwaraewyr wedi dweud mewn gwirionedd mai Caerdydd sydd ag un o’r torfeydd gorau yn y gystadleuaeth gyfan.

"Felly dwi'n edrych ymlaen at wynebu'r dorf a'n gobeithio dechrau ar y daith tuag at ennill yr Uwch Gynghrair."

Michael van Gerwen yw pencampwr presennol yr Uwch Gynghrair, ac mae wedi ennill y gystadleuaeth ar saith achlysur.

Ar drothwy'r gystadleuaeth mae'n ddiolchgar iawn i Gaerdydd am y gefnogaeth mae yn ei dderbyn bob tro.

"Rwy'n teimlo'n dda, rwy'n edrych ymlaen at yr Uwch Gynghrair," meddai.

"Mae bob amser yn braf dod yn ôl yma ac, ie, rwy'n barod amdani. 

"Rydw i wedi chwarae yma, cymaint o gystadlaethau dros y blynyddoedd ac rydw i bob amser yn cael pobl wych sy'n fy nghefnogi. 

"Felly, gobeithio y bydd yn union yr un fath eleni."

Clod i'r brifddinas

Bydd y noson yng Nghaerdydd yn cychwyn am 19:00 yn y Utilita Arena.

Gerwyn Price, Luke Littler, Michael van Gerwen, Luke Humphries, Michael Smith, Rob Cross, Peter Wright a Nathan Aspinall yw'r wyth cystadleuydd fydd yn brwydro am y tlws.

Bydd Michael Smith yn gwisgo crys unigryw sydd yn cynnwys y ddraig goch nos Iau, ac mae'n gobeithio bydd y Cymry yn y dorf yn hoff o hynny.

Image
Michael Smith
Eleni bydd Michael Smith yn gwisgo crys unigryw i bob ddinas, fel mae Gerwyn Price eisoes yn gwneud. Llun: PDC

"Mae'n neis peidio chwarae Cymro yng Nghaerdydd, dwi'n meddwl mod i wedi chwarae Jonny (Clayton) yma dwywaith, Gez (Gerwyn Price) unwaith, felly mae dod yma nawr a chwarae Michael (van Gerwen) dal yn ofyn anodd, ond yn leiaf dwi ddim yn mynd i gael bŵio drwy'r amser," meddai.

"Mae Caerdydd yn lle gwych, mae'r pobl wedi bod yn garedig i fi - heblaw am y tair gêm - ond bob tro arall maen nhw wedi bod yn neis iawn felly dwi'n falch o fod yn ôl."

Eleni yw'r tro cyntaf i Rob Cross chwarae yn y gystadleuaeth ers 2021, ac mae'n edrych ymlaen at gychwyn ei ymgyrch ym mhrifddinas Cymru.

"Mae wedi bod yn rhai blynyddoedd yn tydi? Mae Caerdydd yn ddinas ffantastig, dwi'n caru Caerdydd," meddai. 

"I mi, chi byth yn gywbod, os dwi'n ennill y gêm gyntaf ac yna o bosib yn cael Gezzy (Gerwyn Price) a cael y bŵio.

"Ond dyna sy'n digwydd, na'i weld sut yw'r gêm yn mynd. 

"Dwi'n edrych ymlaen mewn gwirionedd i gychwyn arni ac ie, pa bynnag nerfau sydd gen i, mae'n rhaid i mi geisio cael gwared arnyn nhw'n gyflym."

Llun: PDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.