Newyddion S4C

Cystic Fibrosis: Codi ymwybyddiaeth 'am nad yw pob anabledd yn weledol'

01/02/2024

Cystic Fibrosis: Codi ymwybyddiaeth 'am nad yw pob anabledd yn weledol'

"Dydi anabledd ddim yn rhywbeth mae rywun yn ei weld bob tro."

Yn 12 oed, mae Celt Lewis o Ynys Môn yn ymddangos fel unrhyw blentyn arall yr un oed.

Ond mae Celt yn byw gyda chyflwr Cystic Fibrosis, sef cyflwr genetig sy'n achosi mwcus i gronni yn yr ysgyfaint a'r system dreulio, gan achosi problemau anadlu a risg cynyddol o heintiau ar yr ysgyfaint.

Does dim iachâd ar gyfer y cyflwr, ond mae yna amryw o driniaethau sy'n gallu helpu i reoli symptomau, ac atal neu leihau cymhlethdodau. 

Mae person yn cael ei eni gyda'r cyflwr, wedi iddyn nhw etifeddu genyn diffygiol gan eu rhieni. 

Gall hyn ddigwydd os ydi eu rhieni yn cludo'r genyn diffygiol, er nad oes ganddyn nhw y cyflwr eu hunain. 

Y gred yw fod o gwmpas un ymhob 25 o bobl yn y DU yn cludo genyn Cystic Fibrosis, heb fod yn dioddef o'r cyflwr eu hunain. 

'Codi pres ac ymwybyddiaeth'

Ddechrau fis Mawrth, fe fydd Celt a'i frawd a chwaer, Jac a Seren, yn codi arian ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr. 

Bydd Celt a Seren yn rhedeg Ras y Ddraig drwy dref Porthaethwy, tra y bydd eu brawd hŷn, Jac, yn rhedeg ras 10km ar yr un diwrnod, a hynny er mwyn codi arian at elusen Cystic Fibrosis Trust.

Dywedodd tad Celt, Meurig Lewis: "Ma' gen Celt Cystic Fibrosis, mae o genna fo ers iddo gael ei eni. Natho ni ffeindio allan efo heel prick test pan o'dd o'n chwech wythnos oed,"

"'Dan ni'n trio neud rwbath, dim bob blwyddyn, ond bob hyn a hyn i godi pres ac ymwybyddiaeth am y cyflwr a be sy'n mynd ymlaen, a pa mor anodd ydi o i rywun fel Celt sydd efo Cystic Fibrosis i fyw efo'r cyflwr."

Image
Celt Lewis
Cafodd Celt ei eni gyda Cystic Fibrosis wedi iddo etifeddu genyn diffygiol gan ei rieni.

Roedd Celt i fewn ac allan o'r ysbyty yn gyson nes ei fod yn bump oed yn derbyn triniaethau gwahanol.

"Ma' 'di bod yn anodd iawn, yn enwedig o pan oedd o yn fabi, o'dd o'n sâl iawn reit o'r dechra'," meddai ei fam, Llinos Lewis.

"Yn y diwedd, nath Cystic Fibrosis ddinistrio un ysgyfaint ag oedd raid nhw dynnu'r ysgyfaint ochr yna."

Dywedodd Celt: "O'dd fi angen tynnu ysgyfaint fi o corff fi so ma hwnna 'di cal effaith mawr arall arna fi."

Ers hynny, mae iechyd Celt wedi gwella ac ar gyffuriau newydd erbyn hyn, ond mae'r heriau niferus a  dyddiol yno o hyd.

"Dwi efo tabledi gwahanol, a nebulizers a pwmp glas ventolin, a rwbath o'r enw aerobika, dwi angen chwythu yn yr aerobika i expandio lungs fi i gael mucus allan o ysgyfaint fi," meddai Celt. 

Image
Celt, Jac a Seren
Celt gyda'i frawd, Jac, a'i chwaer Seren.

Mae'r cyflwr yn un cudd yn ôl Meurig, a hynny yn gallu bod yn heriol.

"Ma' 'na lot o bobl yn gweld Celt ag yn meddwl bod o'n berson normal, iach, bod genna fo ddim problemau, ond yn anffodus, dydi anabledd ddim yn rwbath ma rywun yn weld bob tro," meddai. 

"Felly mae lot o bobl yn, be oeddan ni'n weld pan oedd o'n iau oedd bod lot o bobl yn sbio arna ni, ond ddim isio gofyn be oedd y broblem neu be oedd yn mynd ymlaen efo fo, ond sgenna ni ddim problem deud wrthyn nhw."

Mae Celt ei hun yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr er mwyn helpu pobl eraill.

"Os oes gan rywun blentyn sydd wedi cael hyn, eu bod nhw'n gwybod sut i jyst delio efo fo, be di'r petha cywir i'w cael, a beth i ofyn wrth doctor," meddai. 

Image
Teulu Celt
Mae'r teulu i gyd yn falch iawn o ddewrder Celt.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Celt allu rhedeg Ras y Ddraig drwy dref Porthaethwy, ac mae'n teimlo'n gyffrous a diolchgar iawn i gael y cyfle i wneud hyn.

"Dwi'n hapus iawn iawn bod dwi'n cael neud o ddechrau Mawrth, dwi erioed wedi neud o o'r blaen so dwi isio neud o rwan i gael neud rwbath da allan o hyn," meddai.  

Mae brawd hŷn Celt, Jac, hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. 

"Dwi isio helpu Celt obviously, a dwi'n hoffi hel pres i Cystic Fibrosis, a mae o jyst yn rili bwysig i fi i godi sylw ar Cystic Fibrosis i bawb," meddai. 

"Dwi'n meddwl mae o jyst yn bwysig i godi sylw ohona fo fatha cyn gynted â phosib, jyst i godi sylw a thrio hel pres neu helpu pwy bynnag sydd efo fo."

Ychwanegodd mam Celt, Llinos Lewis: "Ma'n anodd i'r teulu i gyd, 'dan ni ddim yn meddwl am hynna weithia ond mae o'n anodd ar Seren a Jac a mae o jest yn ofnadwy gwylio plentyn yn mynd drwy be ma' Celt wedi bod drwydda fo.

"Ma'n ffantastig bod Celt, Jac a Seren yn neud o, ond efo Celt, y ffaith fydd o ddim cweit mor hawdd idda fo, ma'n gallu neidio a rhedeg o gwmpas fatha pawb arall, ond mae o'n colli ei wynt yn lot haws, so fydd o'n challenge idda fo, ond dwi mor falch o'r tri ohonyn nhw."

Mae Celt yn ddiolchgar iawn i'r doctoriaid sydd wedi ei helpu hyd yma.

"Dwi mor hapus bod nhw wedi helpu fi, a jyst diolch yn fawr iawn iawn," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.