Newyddion S4C

Y galw mwyaf erioed am linell gymorth gamblo

31/01/2024
Gamblo

Fe wnaeth y nifer uchaf erioed o bobol chwilio am gymorth ar gyfer problemau gamblo drwy linell gymorth Brydeinig y llynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Roedd tua 52,370 o bobl wedi cysylltu â'r National Gambling Helpline yn 2023 i chwilio am wybodaeth, cymorth a chwnsela – cynnydd o 24% ers 2022, pan oedd tua 42,000 o alwadau.

Gwelodd y llinell gymorth, sy’n cael ei rhedeg gan GamCare, gynnydd sydyn mewn galwadau yn ystod cyfnod y Nadolig.

Bu cynnydd o 39% mewn galwadau drwy gydol mis Rhagfyr 2023 o gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd gweithwyr y llinell gymorth eu bod wedi sylwi ar gynnydd mewn galwadau gan bobl a oedd yn pryderu am dueddiadau gamblo rhywun arall.

Derbyniodd y llinell nifer o alwadau gan bobl yn dweud eu bod yn cael trafferth gwylio teledu gyda'u teuluoedd oherwydd nifer yr hysbysebion gamblo.

'Pryder'

Dywedodd Samantha Turton, pennaeth gwasanaethau cymorth o bell yn GamCare bod y galwadau cynyddol yn destun pryder.

“Rydym wedi arfer gweld cynnydd bach yn nifer y bobl sy’n cysylltu â ni bob blwyddyn. Fodd bynnag, yn 2023 bu cynnydd nodedig yn y bobl sydd eisiau cychwyn ar eu taith o gefnu ar gamblo.

“Er ei bod yn destun pryder i weld y niferoedd cynyddol sydd angen cymorth, rydym wedi ein calonogi bod gweithwyr yn adrodd am gynnydd mewn galwadau gan bobl sy’n estyn allan yn gynharach.

“Mae hwn yn gam amhrisiadwy i atal niwed gamblo rhag gwaethygu ymhellach, ac rydym yn annog unrhyw un i gysylltu os ydynt yn teimlo’n barod i drafod eu perthynas â gamblo, dim ots pa gam yn y broses adfer maen nhw ynddi.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw bod yn agored am gamblo am y tro cyntaf ac rydyn ni yma i wrando."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.