Newyddion S4C

Gwrthwynebiad lleol i gynllun i godi 300 o dai yn Hen Golwyn

29/01/2024

Gwrthwynebiad lleol i gynllun i godi 300 o dai yn Hen Golwyn

Gwyrddni ar gyrion Hen Golwyn - ond am ba hyd? Mae Cyngor Conwy'n gobeithio adeiladu hyd at 300 o dai ar y tir yma ar Fferm Peilwys.

Mae rhai o drigolion y dre'n anhapus am hynny.

Dw i'm yn siŵr be 'dan ni'n mynd i elwa trwy gael cymaint o dai newydd. Mae'r syrjeri doctors dan ei sang. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig i ni. Ydy hynny'n mynd i gael effaith andwyol ar ein diwylliant ni a phob dim?

Be sy'n poeni ni ydy 'dan ni'n mynd i golli mwy a mwy o gaeau gwyrdd. Wel, mae'n beth ofnadwy. Mae cymaint o dai wedi'u codi dros y 50 mlynedd dwetha. Mae'n hollol amlwg. Mae 'na broblemau'n barod efo meddygon, ysgolion trafnidiaeth, mae'n siwr o waethygu.

Mae tai fforddiadwy'n rhan o'r cynllun. Ydych chi'n gallu deall yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal?

Fforddiadwy - dydy o heb ei ddiffinio. Fforddiadwy i bwy? Mae'n ŵyr i eisiau prynu ty. Dydy o'm yn fforddiadwy iddo fo. Dyma safle'r datblygiad posib. Mae'n lledaenu ar draws saith cae uwchben gweddill y dref.

Yn ôl y Cyngor, y cynllun ar hyn o bryd ydy adeiladu rhwng 200 a 300 o dai ar y safle yma. Gan gynnwys canran o dai fforddiadwy. Mae'r safle'n un o bump ar draws y sir sy dan sylw ar gyfer datblygiadau tebyg.

Mae'n rhan o Gynllun Datblygu Lleol newydd y Cyngor. Mae'r cynllun yn rheoli be sy'n gallu cael ei adeiladu ac ym mhle eleni ac am y naw mlynedd nesa.

Mae'r Cyngor yn gobeithio adeiladu dros 3,500 cartref yn y sir yn y cyfnod hwnnw. Ond pam fod cynghorau fel Conwy am adeiladu cymaint o dai?

Mae rhai cynghorau o dan bwysau mawr. Mae'n rhaid iddynt gyrraedd targedau sy'n cael eu clustnodi yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd y targedau yn flynyddol. Os nad ydyn nhw mae'n rhaid adolygu'r dynodiadau a'r clustnodiadau i gael fwy o dir ar gael i'w datblygu.

Mae Cyngor Conwy wedi dweud eu bod nhw'n awyddus i glywed barn trigolion am y safleoedd datblygu posib.

Gyda chymorth Cynllunio Cymru'n cynnal gweithdai i drigolion fel yr un yma.

Maen nhw hefyd yn dweud bod nifer y tai wedi gostwng o 450 yn 2019 i hyd at 300 nawr.

Dydy hynny heb dawelu pryderon rhai o drigolion Hen Golwyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.