Newyddion S4C

Arestio dyn ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol mewn pentref ger Caernarfon

29/01/2024

Arestio dyn ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol mewn pentref ger Caernarfon

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol yn Y Bontnewydd, ger Caernarfon.

Cafodd dyn 42 oed ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol ac am achosi affráe ddydd Sul.

Cafodd dau arf eu meddianu gan swyddogion.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Toc cyn 14:00 ar ddydd Sul 28 Ionawr, fe wnaethon ni dderbyn adroddiad am ddyn yn gwneud bygythiadau ar Ffordd Pwllheli, Bontnewydd, Caernarfon. 

"Cafodd rhywun 42 oed ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol ac am affráe. Cafodd dau arf eu hatafaelu gan swyddogion.

"Roedd y ffordd ar gau wrth i swyddogion ddelio gyda'r digwyddiad.

"Mae’r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra mae ein hymholiadau’n parhau.

"Bydd mwy o heddlu’n bresennol yn yr ardal ddydd Llun er mwyn tawelu meddwl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.