Newyddion S4C

Yr actor Laurence Fox yn colli achos enllib yn yr Uchel Lys

29/01/2024
Laurence Fox

Mae Laurence Fox wedi colli achos enllib yn yr Uchel Lys ar ôl awgrymu ar y cyfryngau cymdeithasol bod dau unigolyn yn cam-drin plant.

Cafodd yr actor sydd wedi troi at wleidyddiaeth ei erlyn gan ymddiriedolwr Stonewall Simon Blake a’r seren drag Crystal ar ôl y ffrae ar X (Twitter gynt).

Roedd Laurence Fox wedi galw’r ddau yn “bedoffiliaid” yn ystod y ffrae dros benderfyniad archfarchnad Sainsbury’s i nodi Mis Pobl Dduon ym mis Hydref 2020.

Penderfynodd yr Ustus Collins Rice o blaid Simon Blake a Colin Seymour, sef enw Crystal pan nad yw’n perfformio.

Dywedodd fod labelu Mr Blake a Mr Seymour fel pedoffiliaid “yn ddifrifol niweidiol, difenwol a di-sail”.

“Nid yw’r gyfraith yn cynnig llawer o amddiffyniadau i ddifenwi o’r math hwn,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd Mr Fox ddangos wedi ceisio dangos fod yr honiadau yn wir.

‘Enw da’

Roedd Lawrence Fox yn ei dro wedi ceisio gwrth-erlyn Mr Blake a Mr Seymour, yn ogystal â’r darlledwr Nicola Thorp, gan ddweud eu bod nhw wedi ei gyhuddo o hiliaeth.

Dywedodd Mr Fox wrth y llys ei fod yn “arswydo” pan welodd ei fod wedi cael ei alw’n hiliol.

Roedd yn “air a oedd yn diweddu gyrfa ac yn honiad oedd yn dinistrio enw da,” meddai.

Dywedodd Lorna Skinner CB, a oedd yn cynrychioli Mr Blake, Mr Seymour a Ms Thorp, fod y triawd “yn credu’n onest, ac yn parhau i gredu’n onest, fod Mr Fox yn hiliol”.

Ni wnaeth Mrs Ustus Collins Rice ddyfarniad ynghylch a oedd disgrifio Mr Fox fel dyn “hiliol” yn “sylweddol wir”.

Ond dywedodd fod y trydariadau oedd yn dweud hynny yn annhebygol o fod wedi achosi niwed difrifol i’w enw da.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.