Newyddion S4C

Cannoedd o ffermwyr yn rhwystro'r ffyrdd i brifddinas Ffrainc

29/01/2024
Ffermwyr Ffrainc Protestio (Wochit)

Mae cannoedd o ffermwyr yn Ffrainc wedi rhwystro ffyrdd i mewn i’r brifddinas Paris gan ddweud bod eu hincwm a’u hamodau gwaith yn gwaethygu.

Mae traffordd yr A13, sy'n cysylltu Normandi â Pharis, wedi'i rhwystro i'r ddau gyfeiriad tua 60 km o'r brifddinas.

Mae protestiadau yn cael eu cynnal ar draws Ffrainc a hefyd yng Ngwlad Belg, a’r Almaen lle mae tractorau wedi rhwystro ffyrdd i borthladd Hamburg.

Dywedodd ffermwyr eu bod nhw’n barod i aros am sawl diwrnod os nad yw eu gofynion yn cael eu bodloni. 

Dywedodd Arnaud Lepoil o’r Fédération nationale des syndicats d'exploitants agricoles, sy’n cynrychioli undebau ffermwyr yn Ffrainc eu bod nhw’n galw ar y Prif Weinidog i weithredu.

“Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi blas i ni, ond rydyn ni am iddo roi ychydig yn fwy ar bynciau eraill,” meddai wrth Le Monde.

Mae’r ffermwyr yn dweud bod biwrocratiaeth a’r gystadleuaeth o ganlyniad i fewnforio bwyd rhatach ar gynnydd.

Dywedodd heddlu Ffrainc bod 15,000 o heddweision wedi ymgasglu er mwyn atal y tractorau rhag gyrru i mewn i Baris a dinasoedd mawr eraill.

Mae’r Arlywydd Emmanuel Macron wedi galw cyfarfod brys i drafod y mater yn y Plas Elysée ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.