Newyddion S4C

Stampiau newydd yn nodi 170 mlynedd ers sefydlu'r Swyddfa Dywydd

Stampiau'r Swyddfa Dywydd

Mae set newydd o stampiau yn cael eu gwerthu i nodi 170 mlynedd ers sefydlu'r Swyddfa Dywydd.

Dywedodd y Post Brenhinol fod yr wyth stamp yn darlunio hanes, gwyddoniaeth a dyfodol rhagolygon y tywydd ac yn cyfleu "obsesiwn parhaus y wlad gyda'r tywydd".

Mae'r stampiau newydd yn mynd ar werth ddydd Iau.

Ymhlith y darluniau mae'r meteorolegwyr arloesol Luke Howard a Robert FitzRoy, a sefydlodd yr hyn sydd bellach yn y Swyddfa Dywydd ym 1854.

Mae'r stampiau hefyd yn dangos datblygiadau mewn rhagolygon tywydd dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gan gynnwys alldaith Terra Nova i Antarctica a Barbara Edwards, y cyflwynydd tywydd benywaidd cyntaf ym Mhrydain.

Dywedodd David Gold, cyfarwyddwr materion allanol a pholisi’r Post Brenhinol bod y stampiau yn dathlu'r bobl sydd y tu ôl i ragolygon y tywydd.

“Mae Prydain wrth eu bodd yn siarad am y tywydd. Mae’n obsesiwn cenedlaethol," meddai.

“Os ydych chi'n bysgotwyr yn mynd allan i’r môr, neu'n ffermwyr yn cynllunio’r cynhaeaf, mae pobl o bob oed eisiau gwybod a fydd hi’n heulog neu’n wlyb, yn boeth neu’n oer.

"Mae’r stampiau hyn yn dathlu’r bobl a’r wyddoniaeth y tu ôl i ragolygon y tywydd.”

Image
Stamp y Swyddfa Dywydd
Un o'r stampiau bydd yn mynd ar werth ddydd Iau. Llun: Y Post Brenhinol / PA

'Balch'

Roedd y Post Brenhinol wedi gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Dywydd ar y stampiau, ac archif y Swyddfa Dywydd oedd ffynhonnell nifer o'r delweddau a gafodd eu defnyddio ar gyfer y casgliad.

Dywedodd yr Athro Penny Endersby, prif weithredwr y Swyddfa Dywydd bod gan y gwasanaeth hanes balch.

“Fel cenedl sydd yn ynys, rydym yn aml yn teimlo effeithiau'r tywydd a’n rôl ni yw helpu pobl i aros yn ddiogel a ffynnu ym mhob cornel o’r DU a thu hwnt," meddai.

“Fel y mae’r stampiau hardd hyn yn ei ddangos, mae’r Swyddfa Dywydd wedi esblygu’n gyson o fod ar flaen y gad o ran rhagweld y tywydd i ddatblygiadau technegol y cyfnod modern.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.