Newyddion S4C

Cynnal twrnamaint wreslo braich Prydain yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed

Newyddion S4C 29/01/2024

Cynnal twrnamaint wreslo braich Prydain yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed

Am y tro cyntaf erioed mi fydd twrnamaint rhanbarthol wreslo braich Prydain (PAA) yn dod i ogledd Cymru gyda thîm lleol wedi'i ffurfio er mwyn cystadlu.

Mae’n gamp sydd heb dderbyn llawer o gyhoeddusrwydd yn ôl cystadleuwyr ond ers cyfnod y pandemig mae’r niferoedd sy’n cystadlu’n codi.

Ddydd Sadwrn y 3ydd o Chwefror mae disgwyl oleiaf 50 o gystadleuwyr a gwylwyr ymgasglu ym mhentref Edern lle y bydd rhai o wreslwyr braich fwyaf nodedig Prydain yn dod i herio.

Gyda’r gamp yn denu mwy o gystadleuwyr, yn ôl rhai sy’n cystadlu o Nefyn maen angen mwy o gyhoeddusrwydd i ddenu mwy o ferched i fentro hefyd.

Tu hwnt i gerddoriaeth uchel a sgrechfeydd y dorf arferol wrth gystadlu... mewn sied dawel yn Nefyn ym Mhen Llŷn mae criw o Gymry yn ymarfer.

Mae nhw’n dweud, yn groes i’r ddelwedd, fod wreslo braich yn gamp sydd â dipyn o sgil yn perthyn iddi.

Er yn weddol newydd i’r fenter, mae Rueben Hughes 38 oed, yn hyfforddi eraill ag yntau wedi cystadlu ar lefel genedlaethol.

“Mae’n dod yn fwy poblogaidd yn sydyn," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

“Swni feddwl ers covid mae o ‘di mwy na dyblu yn braf yma ym Mhrydain o ran poblogrwydd."

Yn ôl Mr Hughes mi oedd dim ond tua 25 yn cystadlu cyn y pandemig ond bellach mae’r niferoedd wedi dringo i tua 100 ar lefel amaturaidd a’r un nifer yn broffesiynol.

“Mae pawb ‘di oleia gweld pobl yn arm wreslo ers pan yn ifanc neu mewn pyb wedyn ma na wbath ynddo fo.

“Pan ti’n mynd i gystadlu wedyn mae 'na frawdgarwch yna ac mae nhw’n dod fatha tîm mawr efo’i gilydd ac mae peint i gael ar ôl y gystadleuaeth - dyna dwi’n licio amdano!"

Image
Rueben Hughes
Rueben Hughes

Mae’r Cymro rŵan wedi llwyddo i ddenu twrnamaint rhanbarthol y PAA i Ogledd Cymru am y tro cyntaf ac mae criw o Gymry newydd hefyd yn paratoi i gystadlu draw yn Edern am y tro cyntaf.

Mae Carol Jones, 40 oed yn hyfforddi gyda’r criw ac yn mentro yn y twrnamaint am y tro cyntaf.

“Mae o’n very techincal de... doni byth yn meddwl swni’n iwshio’r corff i gyd.

“Sa chdi jest yn meddwl mai’r fraich oedd hi ond mae’r ffordd mae’r coesau yn mynd a’r corff – ma gymaint o techniques yn mynd."

Image
Carol Jones
Carol Jones (dde) yn herio Sian Hughes (chwith)

Un arall sy’n cystadlu ydi Deio McGowan.

“Pan mae rhywbeth newydd yn dŵad a di pobl heb ei arfer gwneud o – dydi pobl ddim yn keen ar wneud ond duw, ma’n dda cefnogi rhywbeth bach gwahanol ynde!"

Mae Sian Hughes, sy’n wraig i Rueben wedi arfer teithio ar draws y wlad i gystadlaethau gwahanol ond rŵan yn paratoi i gystadlu am y tro cyntaf ac yn pwysleisio'r angen i ddenu rhagor o ferched.

“Mae ‘na griw yn dod i fyny wan, mae 'na dair yn ardal Mancieion a ma nhw’n arbennig o dda," meddai.

“Mae 'na un yn Oxford a hi’n dod drwodd- mwy o sylw iddo o ran yr ochr merched sydd isho."

Er ddim yn teimlo’n hyderus mai’n edrych mlaen at y profiad.

A gyda’r twrnamaint yn dod i ogledd Cymru am y tro cyntaf, y gobaith yw y bydd y criw bach o Nefyn yn gallu ysbrydoli cystadleuwyr y dyfodol.

Image
Wreslo
Deio McGowan, Sian Hughes, Carol Jones, Reuben Hughes ac Alwyn Jones (o'r chwith)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.