Newyddion S4C

Bywydau menywod Blaenau Gwent yn fyrrach nag yn unrhyw ran arall o Gymru a Lloegr

27/01/2024
blaenau gwent

Mae bywydau menywod ym Mlaenau Gwent yn fyrrach ar gyfartaledd nag yn unrhyw ran arall o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ôl ffigyrau newydd. 

Yn ôl y ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd gan fenywod ym Mlaenau Gwent ddisgwyliad oes o 78.9 o flynyddoedd, gyda Blackpool yn ail (79 o flynyddoedd) a Manceinion yn drydydd (79.2 o flynyddoedd). 

Ardaloedd yn ne Lloegr sydd ar frig y rhestr o'r llefydd gyda'r disgwyliad oes hiraf, gyda'r 10 ardal uchaf ar gyfer dynion a menywod i gyd yn ne Lloegr. 

Mae bywydau dynion yn Hart yn Hampshire yn hirach nag unrhyw le arall yng Nghymru a Lloegr, gydag oed ar gyfartaledd o 83.7 o flynyddoedd.

Uttlesford yn Essex a De Sir Caergrawnt oedd yn ail  (82.7 o flynyddoedd ) Wokingham yn Berkshire yn drydydd (82.5 mlynedd).

Nid oedd unrhyw ardal yn ne Lloegr yn ymddangos yn y 10 uchaf ar gyfer y disgwyliad oes isaf. 

Mae nifer o ardaloedd wedi profi gostynigad mewn amcangyfrif disgwyliad adeg geni, a hynny yn sgil effaith Covid-19. 

'Gwahaniaeth daearyddol clir'

Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr digwyddiadau iechyd a bywyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol Julie Stanborough: "Er bod disgwyliad oes wedi disgyn ar draws y cenhedloedd, mae yna wahaniaeth daearyddol clir o safwynt yr ardaloedd gyda'r canlyniadau gorau a gwaethaf.

"Doedd dim un o'r 10 ardal lleol gyda'r disgwyliad oes hiraf yng ngogledd Lloegr, nac yng Nghymru na Gogledd Iwerddon."

Ond nid yw gostynigad mewn disgwyliad oes yn golygu fod babi sydd wedi ei eni rhwng 2020 a 2022 yn mynd i fyw bywyd byrrach na rhai a gafodd eu geni cyn hyn yn ôl y Swyddfa. 

Mae hyd oes person ar gyfartaledd yn dibynnu ar newidiadau yn y gyfradd farwolaeth ar hyd eu hoes, sy'n golygu os ydi cyfraddau yn gwella, fe fydd disgwyliad oes yn cynyddu hefyd. 

Yng Nghymru, roedd y gostyngiad mwyaf ar gyfer disgwyliad oes mewn dynion yn Wrecsam, a welodd gostyngiad o 1.2 o flynyddoedd.

Merthyr Tudful oedd yr ardal a brofodd y gostyngiad mwyaf yng Nghymru i ferched, sef gostyngiad o 1.4 o flynyddoedd. 

Roedd y cynnydd mwyaf yn Sir Fynwy ar gyfer dynion (cynnydd o hanner blwyddyn) a Phen-y-bont ar Ogwr (0.6 o flynyddoedd) ar gyfer menywod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.