Newyddion S4C

Sgandal Swyddfa'r Post: Galw am ddileu cytundebau Cymreig Fujitsu

Newyddion S4C 25/01/2024

Sgandal Swyddfa'r Post: Galw am ddileu cytundebau Cymreig Fujitsu

Mae cyn is-bostfeistr garcharwyd ar gam fel rhan o sgandal Swyddfa'r Post wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu cytundebau cyhoeddus gyda Fujitsu.

Cwmni Fujitsu oedd yn gyfrifol am raglen gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon. 

Rhwng 1999 a 2015, cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn wedi i'r rhaglen gyfrifiadurol nodi bod arian wedi diflannu o'u canghennau. 

Mae Fujitsu wedi ymddiheuro am eu rhan yn y sgandal. Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes ein system gyfreithiol. 

Un o'r rhai erlynwyd ar gam yw Noel Thomas o Ynys Môn.

Yn 2006, cafodd ei garcharu wedi iddo dderbyn cyngor cyfreithiol i bledio'n euog i "gadw cyfrifon ffug". Cafodd y dyfarniad ei wrthdroi dair blynedd yn ôl.

Nam Horizon

Yn 2019, dyfarnodd yr Uchel Lys bod nam ar system gyfrifiadurol Horizon, ac mai dyna arweiniodd at erlyniadau anniogel gan Swyddfa'r Post. 

Mae Newyddion S4C wedi canfod  bod miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus Cymreig wedi ei wario ar gytundebau gyda Fujitsu - a hynny wedi i'r Uchel Lys dynnu sylw at ffaeleddau'r cwmni. 

Wrth siarad o'i gartref yn y  Gaerwen, dywedodd Noel Thomas y byddai "yn licio gweld" cytundebau cyhoeddus Cymreig gyda Fujitsu yn cael eu dirwyn i ben "ar  ôl yr holl stwr maen nhw wedi achosi. I mi, mae hynny yn 20 mlynedd bron."

Image
S4C
Noel Thomas a chyn-isbostfeistri eraill tu allan i'r Uchel Lys yn Llundain

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai nhw oedd yr awdurdod cytundebu ar gyfer dau gytundeb gwerth cyfanswm o dros £2 miliwn. Dyfarnwyd y cytundebau yna i Fujitsu ym mis Awst 2022 - flwyddyn a hanner wedi i Noel Thomas a 38 cyn is-bostfeistr glirio'u henwau yn Uchel Lys Llundain. 

"Rydw i  wedi siomi a dweud y gwir," oedd ymateb Mr Thomas pan gafodd wybod am y cytundebau. "Pam bod nhw wedi mynd i lawr y lôn yma? Mae i weld bod gan Fujitsu gontracts yn bob man." 

"Mae'n syndod bod y cytundebau yma yn mynd yn eu blaenau, yn y wlad yma - yng Nghymru." 

Mae Fujitsu wedi dweud eu bod nhw yn rhoi'r gorau i wneud cais am gytundebau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig tan bod yr ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Swyddfa'r Post yn dod i ben. 

Hawl cytundebol

Gofynodd Newyddion S4C i Lywodraeth Cymru a fyddai hawl gan Fujitsu i wneud cais am y contractau sydd yn dod i ben yn hwyrach eleni?

Wnaethon nhw ddim ateb y cwestiwn hwnnw'n uniongyrchol, ond dywedodd llefarydd  bod "deddfwriaeth yn ei gwneud hi'n bosibl i brynwyr sector cyhoeddus i eithrio cynigydd o'r broses gaffael os dyfernir bod un neu fwy o gamau eithrio yn berthnasol iddynt, fel yr esbonir yn y ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau integriti y darparwyr rydyn ni'n cytundebu a nhw."

Mae Newyddion S4C hefyd wedi canfod i gytundeb arall, gwerth £1 miliwn y flwyddyn, rhwng Fujitsu a Thrafnidiaeth Cymru, gael ei ymestyn am ddwy flynedd y llynedd heb broses dendro.

 Llywodraeth Cymru sy'n berchen llwyr ar Trafnidiaeth Cymru. Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: "Mae hwn  yn fater gweithredol i Drafnidiaeth Cymru. Does dim byd gan Lywodraeth Cymru i'w wneud â  hyn."

Image
Delyth
Delyth Jewell AS

Dywedodd Llefarydd Trafnidiaeth Plaid Cymru, Delyth Jewell: "Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau, wrth oruchwylio, i weld cytundebau yn cael eu dyfarnu i Fujitsu. Mae hynny'n codi cwestiynau am y broses wirio i gwmniau sydd yn derbyn buddsoddiad cyhoeddus. 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai nhw yw'r awdurdod cytundebu gyda dau o'r contractau. Ac eto - arian cyhoeddus yw hwn - hoffwn i weld adolygiad i sut mae'r cytundebau yna wedi eu dyfarnu."

"Dwi'n credu byddai llawer o bobl Cymru yn dweud bod cwestiynau moesol ynglyn ag a ddylai cwmni sydd wedi chwarae rhan mor ganolog mewn chwalu bywydau fod yn gwmni addas i dderbyn arian cyhoeddus."

Dywedodd Fujitsu nad ydyn nhw'n ymateb i gwestiynau penodol, gan anfon y datganiad yma:

"Mae Fujitsu Group yn trin y mater hwn gyda'r difrifoldeb mwyaf ac yn cynnig ei ymddiheuriad dyfnaf i'r is-bostfeistri a'u teuluoedd. Mae'r ymchwiliad cyheddus, lle mae ein cwmni Prydeinig yn cynnig cydweithrediad llwyr, yn archwilio digwyddiadau cymhleth ddigwyddodd dros nifer o flynyddoedd.

"Wedi i'r ymchwiliad ddod i gasgliadau, byddwn yn gweithio gyda llywodraeth y DU ar weithrediadau addas, gan gynnwys cyfraniad at iawndal. Gobeithia Fujitsu Group am ddiwedd cyflym sydd yn sicrhau canlyniad teg i'r dioddefwyr."

'Cost-effeithiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Cafodd y cytundeb gwreiddiol ar gyfer y swyddfa docynnau a pheiriannau tocynnau ei wobrwyo gan Arriva fel rhan o gytundeb grŵp oedd yn cynnwys Trenau Arriva Cymru a sawl cwmni trên arall yn y grŵp Arriva yn 2016.

"Cafodd y cytundeb yma ei reoli yn ddiweddarach gan Keolis Amey, a wnaeth ymestyn y cytundeb fel rhan o adnewyddu'r swyddfa docynnau a pheiriannau ffôn symudol. Cafodd y cytundeb ei ymestyn ymhellach i Ebrill 2026 gan Drafnidiaeth Cymru, oherwydd ei fod yn ei ystyried yn fwy cost-effeithiol na disodli'r caledwedd presennol.

"Mae proses achredu'r Grŵp Dosbarthu Rheilffyrdd (RDG) yn darparu gofynion llym ar gyfer unrhyw gyflenwr sy'n darparu caledwedd neu feddalwedd ar gyfer dosbarthu tocynnau ac mae'r feddalwedd newydd yn cael ei phrofi yn drwyadl gan yr RDG, ac ni fyddant yn cymeradwyo'r feddalwedd oni bai bod y profion llym hyn yn cael eu pasio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.