Covid-19: Cymru 'bythefnos neu dair wythnos' tu ôl i Loegr a'r Alban
Covid-19: Cymru 'bythefnos neu dair wythnos' tu ôl i Loegr a'r Alban
Mae'n bosib fod Cymru ddim ond "pythefnos neu dair wythnos" y tu ôl i'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban o ran y nifer o achosion Covid-19.
Dyna'r rhybudd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wrth iddo gyhoeddi na fydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach yng Nghymru am o leiaf pedair wythnos, a hynny oherwydd pryderon am amrywiolyn delta.
Cafodd 490 achos o amrywiolyn delta eu cofnodi yng Nghymru ddoe, gyda disgwyl i'r nifer godi eto ddydd Gwener.
Mae 80% o achosion newydd o Covid-19 bellach yn deillio o’r amrywiolyn delta.
Dywedodd Mr Drakeford mai’r amrywiolyn delta oedd yn gyfrifol am bron i holl achosion Covid-19 y gogledd yr wythnos hon.
Rheoli effaith y don
Gobaith y llywodraeth yw y bydd oedi llacio'r cyfyngiadau am bedair wythnos yn galluogi mwy o bobl i gael eu brechu er mwyn rheoli effaith y don ddiweddaraf o'r feirws.
Er na fydd llacio pellach, fe fydd rhai newidiadau i'r rheolau er mwyn eu gwneud nhw'n haws i'w deall.
Dros y pedair wythnos nesaf, fe fydd dros hanner miliwn dos o'r brechlyn yn cael eu darparu er mwyn osgoi ton arall o salwch difrifol.
Dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn cyflymu'r broses o ddarparu ail ddos o'r brechlyn er mwyn sicrhau fod gan bobl amddiffyniad y brechlyn.
Roedd yn annog pobl i sicrhau eu bod yn mynychu eu hapwyntiadau am frechiad pan mae'r cynnig yn dod.
Ers diwedd mis Mai, mae'r nifer o achosion wedi cynyddu ar draws Cymru a dywedodd Mr Drakeford fod cynnydd sydyn wedi bod yn y nifer o achosion ymhlith pobl o dan 25 oed.
Bythefnos yn ôl, roedd y gyfradd o achosion yn llai na 10 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, ond mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod y gyfradd honno bellach wedi cynyddu i 23.6.
Mae'r ganran o achosion positif o'r feirws hefyd wedi mwy na dyblu i 2.4%.