Y gwaith o chwilio am ddynes ger arfordir Porthcawl yn dod i ben
Y gwaith o chwilio am ddynes ger arfordir Porthcawl yn dod i ben
Mae'r gwasanaethau achub wedi rhoi'r gorau i chwilio am ddynes allai fod wedi mynd i'r dŵr ym Mhorthcawl,yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr nos Fawrth.
Dechreuodd y chwilio ar hyd arfordir y dref lan-môr wedi adroddiadau bod person wedi mynd i'r dŵr.
Cafodd y gwasanaethau brys wybod tua 17.55 ddydd Mawrth fod yna bryderon bod person mewn trafferthion yn y môr.
Bu Gwylwyr y Glannau Porthcawl, Port Talbot, Llanilltud Fawr a Sain Tathan yn ceisio dod o hyd i’r person, ac roedd dau hofrennydd gan yr heddlu yn archwilio'r ardal.
Yng nghanol storm Jocelyn, ymunodd bad achub yr RNLI o'r Mwmbwls, Abertawe â'r ymdrechion hefyd.
Ond daeth y chwilio i ben yn ystod oriau mân fore Fercher.
Ar gais yr heddlu yn ddiweddarach fore Mercher, fe ail ddechreuodd y chwilio, ond mae'r gwaith bellach wedi dod i ben am y dydd.