Newyddion S4C

Mam Brianna Ghey'n galw am gosbau llymach i bobl sy'n cario cyllyll

24/01/2024
Brianna Ghey

Mae mam Brianna Ghey, y ferch ysgol gafodd ei llofruddio yn Warrington, wedi dweud bod ei dau lofrudd yn “llwfrgwn” ac mae hi'n galw am gosbau llymach i bobl sydd yn cario cyllyll.

Cafodd Brianna, 16, ei thrywanu 28 o weithiau ar ôl iddi gael ei harwain i barc yn y dref ar 11 Chwefror 2023.

Er i’r ddau lofrudd feio ei gilydd, fe’u cafwyd yn euog o lofruddiaeth fis diwethaf yn Llys y Goron Manceinion.

Yr wythnos nesaf, bydd merch X a bachgen Y – a oedd yn 15 oed ar y pryd – yn cael eu henwi pan fydd barnwr yn rhoi dedfrydau oes i'r ddau, ac yn pennu’r cyfnodau lleiaf y mae’n rhaid iddynt eu treulio yn y ddalfa cyn y gellir ystyried eu rhyddhau.

Ddydd Mercher, dywedodd mam Brianna, Esther Ghey, ei bod am i’r cyfnodau hynny fod “cyhyd â phosib”.

'Cyfiawnder'

Mewn cyfweliad ar Good Morning Britain ar ITV1, dywedodd: “Dydw i ddim yn gwybod a fydd byth cyfiawnder i Brianna. Byddai'n braf ei chael hi yn ôl adref. Byddai hynny'n gyfiawnder i mi ond yn amlwg, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd.

“Felly roedd clywed y ple euog hwnnw - yn deimlad enfawr o ryddhad.

“Mae’r ffaith i’r ddau bwyntio bys at ei gilydd yn dangos eu bod nhw’n llwfrgwn ac yn dangos cymeriad pob un ohonyn nhw. Efallai petaent wedi cyfaddef neu ddangos ychydig o edifeirwch, efallai y byddwn i wedi teimlo rhywfaint o gydymdeimlad tuag atyn nhw.”

Ymgyrch

Mae Ms Ghey wedi dechrau ymgyrch, 'Peace in Mind', er cof am Brianna, sydd â'r nod o gefnogi plant i brosesu a delio ag emosiynau negyddol mewn ffordd iach.

Meddai: “Pan oedd Brianna yma roedd hi wir yn cael trafferth gyda’i hiechyd meddwl. Roedd hi'n hunan-niweidio, roedd ganddi anhwylder bwyta, a phryder. 

"Felly roedd hi mor gymhleth oherwydd ar yr un llaw roedd hi'n berson mor hyderus ond ar y llaw arall roedd ganddi'r holl anawsterau hyn.

“Oherwydd fy mhrofiad gyda Brianna, roeddwn i eisiau helpu pobl ifanc eraill felly fe ddechreuon ni’r ymgyrch ‘Peace in Mind’ ac rydyn ni mor agos at y targed nawr.

“Rydym yn gobeithio cael hyfforddwr iechyd meddwl ym mhob ysgol yn Warrington ac yn gobeithio lledaenu hyn dros ysgolion Lloegr hefyd. Rydw i mewn trafodaethau gyda’n AS lleol ac yn gobeithio derbyn sylw gan y Senedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.