Newyddion S4C

Diffyg tai fforddiadwy mewn cymunedau arfordirol 'yn gyrru pobl ifanc i ffwrdd'

24/01/2024

Diffyg tai fforddiadwy mewn cymunedau arfordirol 'yn gyrru pobl ifanc i ffwrdd'

Mae diffyg tai ffordiadwy mewn cymunedau gwledig yn gorfodi pobl ifanc  i adael, yn ôl un o gyfarwyddwyr Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion hefyd fod “rhywfaint o wirionedd” fod ail dai yn "lladd cymunedau” mewn rhai ardaloedd.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â’r effaith o'r newid mewn poblogaeth yng Nghymru yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

Image
Stephen Crabb AS
Stephen Crabb AS, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

Gofynnodd cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Seneddol Stephen Crabb: “Gyrrais drwy bentref Llandudoch y penwythnos diwethaf ac roedd arwydd yn ffenestr un o’r tai yn dweud, ‘mae ail dai yn lladd cymunedau’. Ydy ail gartrefi yn lladd cymunedau yng Ngheredigion?”

Atebodd Mr Rees: “Mae gennym nifer gymharol uchel o ail gartrefi, tua 1,700 o ail gartrefi.

“Mae'n dibynnu ar y lleoliad; Cei Newydd sydd ar yr arfordir, mae’n bentref hardd, yn gyrchfan o ddewis, ond hefyd yn gyrchfan o ddewis i bobl sy’n chwilio am ail gartrefi. Mae gennym tua 27%, sef dros chwarter yr holl gartrefi yng Nghei Newydd yn ail gartrefi. 

“Wrth reswm, nid ydynt bob amser yn gartrefi fforddiadwy, mae rhai o'r rhain yn gartrefi eithaf drud, ac felly y tu hwnt i allu ein pobl ifanc eu prynu.

"Felly, nid bod yn wleidyddol yn ei gylch, ond mae rhywfaint o wirionedd yn yr hyn a ddywedwch o ran y rhai nad ydynt yn hygyrch i'n pobl sy'n dymuno prynu cartrefi yng Ngheredigion.

Image
Barry Rees
Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion

“O ran ein hasesiad o lesiant lleol, roedd yn amlwg iawn mai’r prif bryderon i’n pobl ifanc oedd argaeledd tai fforddiadwy ac argaeledd swyddi. Mae ein data yn awgrymu bod hynny’n cael ei gadarnhau gan y ffaith bod gennym leihad yn y boblogaeth, yn enwedig yn ein poblogaeth iau a thrwy’r boblogaeth oedran gweithio.

“Ar ben arall y sbectrwm, oherwydd bod gennym ni bris tŷ cyfartalog uchel, mae pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd iawn mynd ar yr ysgol dai honno. Yn eu hanfod, byddent yn troi i mewn i dai fforddiadwy, felly mae'n bryder arbennig i ni yng Ngheredigion ac yn un o'r ffactorau sy'n sbarduno newid yn ein poblogaeth.”

‘Targedu’

Dywedodd Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Cymru Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, nad oedd wedi gweld tystiolaeth o’r effaith o gynghorau lleol yn codi premiwm treth cyngor ar berchnogion ail dai ar y sector adeiladu tai.

Ychwanegodd ei fod yn credu fod angen i gynghorau i “dargedu” cymunedau penodol ble mae cyfraddau uwch o ail dai, yn hytrach na thargedu rhanbarthau cyfan.

Image
Ifor Glyn
Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Cymru Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr

Wrth ymateb i gwestiwn gan Mr Crabb ynglŷn ag effaith codi’r premiwm, dywedodd Mr Glyn: “Nid wyf wedi gweld tystiolaeth ohono. 

“Rwy'n meddwl ar y pwynt ail gartrefi, mae angen iddo gael ei dargedu'n llawer mwy nag sy'n cael ei dargedu ar hyn o bryd. Mae problemau gydag ail gartrefi a’r cwestiwn a ofynnwyd gennych, ‘a yw’n lladd cymunedau?’, mewn rhai rhannau o Gymru, mae hynny yn wir.

“Gallwn i enwi ychydig o bentrefi arfordirol yn sicr lle mae hynny wedi bod yn wir. Yr hyn nad ydym am ei weld yn digwydd yw i hynny ddigwydd mewn mannau eraill ond mae angen inni roi’r gallu i awdurdodau lleol dargedu’r trefi a’r pentrefi penodol hynny lle mae hynny’n broblem benodol yn hytrach na'r math rhanbarthol ry’n ni’n ymdrin ag o nawr.

“[O ran darparu tai], rydym yn methu ar bob cyfrif. O ran fforddiadwyedd, mae'r gallu i brynu'ch cartref y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl. Yna maen nhw’n cael eu gorfodi i geisio rhentu ac mae rhenti wedi codi. Yn 2023, cododd rhenti yng Nghymru ychydig dros 7%. Felly mae hynny allan o gyrraedd llawer o bobl. 

“Mae pris cyfartalog rhentu eiddo ar gyfer cartref yn tua £1000 yng Nghymru, ac os ydych chi'n ennill cyflog isel, mae hynny'n broblem fawr. Yna mae’n nhw’n troi tuag at dai cymdeithasol ac mae rhestrau aros tai cymdeithasol yn hirach nag erioed, felly mae'n broblem enfawr.”

Ychwanegodd Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru ar gyfer y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi fod "tangyflenwad" o dai newydd yng Nghymru, oherywdd "diffyg tir" sydd ar gyfer prosiectau adeiladu.

Image
Mark Harris
Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru ar gyfer y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi 

Dywedodd hefyd bod prosiectau adeiladu yn fwy cyffredin yn ardaloedd y de ddwyrain a'r gogledd, yn hytrach nag ardaloedd gwledig.

“Yn ôl Cynllun Cymru’r Dyfodol a roddodd Llywodraeth Cymru ar waith yn ddiweddar, mae angen 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn ar Gymru," meddai.

“Ar hyn o bryd rydym yn adeiladu tua 5,500 o gartrefi'r flwyddyn ac nid ydym wedi bod yn agos at y 7,400 ers blynyddoedd lawer, felly mae'n amlwg bod tangyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru.”

Yr iaith Gymraeg

Fe aeth Mr Crabb ymlaen i holi ynglŷn ag effaith y newid mewn poblogaeth ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Mr Rees: “Rwy'n meddwl bod nifer y siaradwyr yng Ngheredigion yn y cyfrifiad diwethaf wedi gostwng 2%. Mae’n dal i fod yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.

“Gyda’r strwythur addysg sydd gennym, mae'r mewnbwn o siaradwyr Cymraeg i'r cymunedau yn wirioneddol gryf. 

"Fodd bynnag, mae'r ffaith bod gennym ni allfudo net o bobl ifanc o Geredigion - mae'n debyg ein bod ni'n cyflenwi siaradwyr Cymraeg i rannau eraill o Gymru, yn enwedig oherwydd y dynfa enfawr i holl ddinasoedd de Cymru. 

"Mae yna bobl a fydd yn dod yn ôl, ar ôl bod i ffwrdd, ond mae'n allfudo allanol net ar hyn o bryd. 

“Yn ychwanegol, mae gennym lefelau uchel o bobl sy'n ymddeol i Geredigion; nhw yw'r bobl sy'n gallu fforddio ein cartrefi, ond o ganlyniad mae gennych chi eiddo eithaf mawr gydag un neu ddau o bobl o oedran penodol yn byw ynddynt, ac anaml iawn maen nhw'n siaradwyr Cymraeg. 

"Felly mae'r mudo net yma yn cael effaith y mae angen inni geisio gweithio'n galed iawn i'w leihau.”

Lluniau: parliamentlive.tv

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.