Newyddion S4C

Cau ffyrdd wrth i Storm Jocelyn achosi llifogydd

23/01/2024

Cau ffyrdd wrth i Storm Jocelyn achosi llifogydd

Mae nifer o ffyrdd wedi’u cau ledled Cymru nos Fawrth wedi i Storm Jocelyn daro, ac mae adroddiadau fod cartrefi mewn ardaloedd yn y gogledd ddwyrain heb drydan. 

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar gyfer siroedd ar hyd a lled Cymru, ac mae disgwyl iddyn nhw barhau mewn grym dros nos. 

Yn y de a’r canolbarth, fe ddaeth rhybudd melyn am wynt i rym am 12.00 ddydd Mawrth gan bara hyd at 15.00 ddydd Mercher – tra yn y gogledd, mae'r  rhybudd mewn grym rhwng 16.00 brynhawn Mawrth hyd at 13.00 ddydd Mercher. 

Mae’r tywydd garw yn parhau i achosi oedi i drafnidiaeth, ac yn Sir Conwy mae ffordd y B5106 rhwng Llanrwst a Gwydyr ar gau, yn ogystal â’r ffordd rhwng Ffordd Groes a Bae Colwyn, a Ffordd Garth a Llansanffraid Glan Conwy.

Ym Mhowys, mae ffordd yr A44 rhwng Eisteddfa Gurig a Llangurig yn parhau ar gau, ac yn Sir y Fflint fe gafodd Pont Sir y Fflint ei chau am 18.00. 

Yn Sir Benfro, mae Pont Cleddau bellach ar gau a hynny yn sgil pryderon ynglŷn â’r gwyntoedd cryfion.

Mae Pont Britannia ar gau i garafanau, beiciau a beiciau modur, gyda therfyn cyflymder o 30mya mewn grym ar gyfer cerbydau eraill.

Mae disgwyl i'r bont gau i bob math o gerbyd ac eithrio ceir a faniau bychain rhwng 17.00-20.00, a 22.00-23.00, yn ogystal.

Yn siroedd Dinbych a Wrecsam, mae ffordd yr A483 o gyffordd 1 i'r A5 Cylchfan Gledrid bellach ar agor wedi iddo gael ei chau rhwng 15.45-19.15, oherwydd rhagolygon am wyntoedd cryfion ar draphontydd Dyfrdwy a Ceiriog.

Y gred yw y bydd y gwyntoedd cryfion yn cyrraedd eu penllanw am hanner nos, nos Fawrth, gyda'r gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 55-65 mya, gyda rhybuddion am hyrddiadau hyd at 70mya ar hyd yr arfordir. 

Mae gwyntoedd 70mya eisoes wedi’u cofnodi ddydd Mawrth, a hynny dros Lyn Efyrnwy ym Mhowys. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.