Pwyllgor Materion Cymreig i drafod effaith ail-gartrefi yng Nghymru
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin yn cwrdd ddydd Mercher er mwyn trafod ail-dai yng Nghymru.
Mae disgwyl i aelodau’r pwyllgor ddechrau eu trafodaeth am 10.00 fore Fercher, gan nodi rhesymau unigolion dros fod yn berchen ar ail gartrefi mewn ardaloedd penodol yng Nghymru, a chanolbwyntio ar effaith hynny ar gymunedau lleol.
Yn ôl gwaith ymchwil y pwyllgor, mae bobl ifanc hefyd yn gadael Cymru, ac mae hynny yn cael effaith ar boblogaeth y wlad.
Mae disgwyl i’r pwyllgor hefyd trafod cynnydd yn lefelau mewnfudo, yn ogystal ag economïau lleol, a’u heffaith ar lefelau ail-gartrefi
Bydd ASau yn clywed gan gynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Chydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru, yn ogystal â Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Chyngor Sir Ceredigion.
Mae disgwyl i'r pwyllgor drafod sut mae gwasanaethau lleol, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, yn effeithio ar newidiau yn y boblogaeth.
Mae’r pwyllgor eisoes wedi cynnal trafodaeth fis Rhagfyr diwethaf gan dynnu sylw at y newid ym mhoblogaeth y wlad, mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a phobl ifanc yn symud oddi cartref.
Nodwyd bryd hynny bod y boblogaeth wedi tyfu 5.5% rhwng 2001 a 2011, ac yna wedi gostwng 1.4% rhwng 2011 a 2021.